RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr

74Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben

(1)Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 73 yn dod i ben o dan unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adrannau (2), (3), (4), neu (5), os yw’r ceisydd wedi cael ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw diwedd cyfnod o 56 o ddiwrnodau.

(3)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol, cyn diwedd cyfnod o 56 o ddiwrnodau, yn fodlon bod camau rhesymol wedi eu cymryd i gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

(4)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon (pa un ai o ganlyniad i’r camau y mae wedi eu cymryd neu beidio)—

(a)bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, a

(b)bod y llety yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(5)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y ceisydd, ar ôl cael ei hysbysu am ganlyniad posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod cynnig o lety gan unrhyw berson y mae’r awdurdod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd, a

(b)bod yr awdurdod yn fodlon bod y llety a gynigir yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(6)Mae’r cyfnod o 56 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adrannau (2) a (3) yn dechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd o dan adran 63 ac at y diben hwn mae’r ceisydd i gael ei drin fel pe bai wedi ei hysbysu ar y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.

(7)Mae’r cyfnod o 6 mis a grybwyllir yn is-adran (4)(b) a (5)(b) yn dechrau ar y diwrnod y mae’r hysbysiad o dan adran 84 yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.

(8)Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fydd y ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben.