RHAN 2DIGARTREFEDD
PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD
Dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr
I1I271Ystyr hyglwyf yn adran 70
1
Mae person yn hyglwyf o ganlyniad i reswm a grybwyllir ym mharagraff (c) neu (j) o adran 70(1) os, ar ôl rhoi sylw i holl amgylchiadau achos y person—
a
y byddai’r person yn llai abl i ofalu amdano ei hun (o ganlyniad i’r rheswm hwnnw), pe bai’r person yn dod yn ddigartref ac ar y stryd, na pherson digartref arferol sy’n dod yn ddigartref ac ar y stryd, a
b
y byddai’r person hwnnw, o ganlyniad, yn dioddef mwy o niwed nag y byddai person digartref arferol yn ei ddioddef;
mae’r is-adran hon yn gymwys pa un a yw’r person y mae ei gais o dan ystyriaeth yn ddigartref ac ar y stryd, neu’n debygol o ddod yn ddigartref ac ar y stryd, ai peidio.
2
Yn is-adran (1), ystyr “digartref ac ar y stryd” (“street homeless”), mewn perthynas â pherson, yw nad oes llety ar gael i’r person ei feddiannu yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, y mae’r person—
a
â’r hawl i’w feddiannu yn rhinwedd buddiant ynddo neu yn rhinwedd gorchymyn llys,
b
â thrwydded ddatganedig neu oblygedig i’w feddiannu, neu
c
yn ei feddiannu fel preswylfa yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol sy’n rhoi i’r person yr hawl i barhau i feddiannu neu’n cyfyngu ar hawl person arall i adennill meddiant;
ac nid yw adrannau 55 a 56 yn gymwys i’r diffiniad hwn.