Pan fo’n ofynnol o dan y Bennod hon i awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau (yn hytrach na “sicrhau”) bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’r ceisydd ei feddiannu—
(a)mae’n ofynnol i’r awdurdod gymryd camau rhesymol i gynorthwyo, gan roi sylw (ymysg pethau eraill) i’r angen i wneud y defnydd gorau o adnoddau’r awdurdod;
(b)nid yw’n ofynnol i’r awdurdod sicrhau cynnig o lety o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (dyrannu tai);
(c)nid yw’n ofynnol i’r awdurdod ddarparu llety fel arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 65 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 16