RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr

64Sut i sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety ar gael

(1)

Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r modd y caiff awdurdod tai lleol sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)

drwy drefnu i berson ac eithrio’r awdurdod ddarparu rhywbeth;

(b)

drwy ddarparu rhywbeth ei hun;

(c)

drwy ddarparu rhywbeth, neu drefnu i rywbeth gael ei ddarparu, i berson ac eithrio’r ceisydd.

(2)

Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r hyn y caniateir ei ddarparu neu ei drefnu er mwyn sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)

cyfryngu;

(b)

taliadau ar ffurf grant neu fenthyciad;

(c)

gwarantau y bydd taliadau yn cael eu gwneud;

(d)

cefnogaeth i reoli dyled, ôl-ddyledion morgais neu ôl-ddyledion rhent;

(e)

mesurau diogelwch i geiswyr sydd mewn perygl o wynebu camdriniaeth;

(f)

eiriolaeth neu gynrychiolaeth arall;

(g)

llety;

(h)

gwybodaeth a chyngor;

(i)

gwasanaethau, nwyddau neu gyfleusterau eraill.

(3)

Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau tai lleol mewn perthynas â sut y gallant hwy sicrhau neu helpu i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i geisydd ei feddiannu.