RHAN 2DIGARTREFEDD
PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD
Ceisiadau am gymorth ac asesiad
62Dyletswydd i asesu
(1)
Rhaid i awdurdod tai lleol gynnal asesiad o achos person—
(a)
os yw’r person wedi gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety,
(b)
os yw’n ymddangos i’r awdurdod y gallai’r person fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, ac
(c)
os nad yw is-adran (2) yn gymwys i’r person.
(2)
Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r person wedi ei asesu gan awdurdod tai lleol o dan yr adran hon ar achlysur blaenorol a bod yr awdurdod yn fodlon—
(a)
nad yw amgylchiadau’r person wedi newid yn sylweddol ers i’r asesiad gael ei gynnal, a
(b)
nad oes unrhyw wybodaeth newydd sy’n cael effaith sylweddol ar yr asesiad hwnnw.
(3)
Yn y Bennod hon, ystyr “ceisydd” yw person y mae’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys iddo.
(4)
Rhaid i’r awdurdod asesu pa un a yw’r ceisydd yn gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon ai peidio.
(5)
Os yw’r ceisydd yn gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon, rhaid i’r asesiad gynnwys asesiad o’r canlynol—
(a)
yr amgylchiadau sydd wedi achosi i’r ceisydd fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd;
(b)
anghenion tai y ceisydd ynghyd ag unrhyw berson y mae’r ceisydd yn byw gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gydag ef;
(c)
y gefnogaeth y mae ei hangen ar y ceisydd ynghyd ag unrhyw berson y mae’r ceisydd yn byw gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gydag ef i gadw llety sydd ar gael neu a allai ddod ar gael;
(d)
pa un a oes unrhyw ddyletswydd ar yr awdurdod i’r ceisydd ai peidio o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon.
(6)
Wrth gynnal asesiad, rhaid i’r awdurdod tai lleol—
(a)
ceisio canfod pa ganlyniad y mae’r ceisydd yn dymuno ei gyflawni drwy gymorth yr awdurdod, a
(b)
asesu pa un a allai arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Bennod hon gyfrannu at gyflawni’r amcan hwnnw.
(7)
Caiff awdurdod tai lleol gynnal ei asesiad o’r materion a grybwyllir yn is-adrannau (5) a (6) cyn iddo benderfynu bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon.
(8)
Rhaid i awdurdod tai lleol adolygu ei asesiad yn ystod y cyfnod y mae’r awdurdod yn ystyried bod dyletswydd arno i’r ceisydd o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon neu y gallai dyletswydd fod arno.
(9)
Rhaid i awdurdod tai lleol adolygu ei asesiad yn y ddau achos a ganlyn—
Achos 1 - pan fo ceisydd wedi ei hysbysu o dan adran 63 bod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66 (dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref) a’i bod yn ymddangos i’r awdurdod wedi hynny bod y ddyletswydd o dan adran 66 wedi dod i ben neu’n debygol o ddod i ben gan fod y ceisydd yn ddigartref;
Achos 2 - pan fo ceisydd wedi ei hysbysu o dan adran 63 bod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref) a’i bod yn ymddangos i’r awdurdod wedi hynny bod y ddyletswydd yn adran 73 wedi dod i ben neu’n debygol o ddod i ben o dan amgylchiadau pan y gallai dyletswydd fod yn ddyledus i’r ceisydd o dan adran 75 (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben).
(10)
Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (5)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol asesu a fyddai dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 75 ai peidio oni bai a hyd nes y bo’n adolygu ei asesiad yn unol ag is-adran (9) o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn achos 2 o’r is-adran honno; ond caniateir iddo wneud felly cyn hynny.
(11)
Nid yw is-adrannau (9) a (10) yn effeithio ar gyffredinolrwydd is-adran (8).