RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Termau allweddol

59Addasrwydd llety

(1)

Wrth benderfynu a yw llety’n addas ar gyfer person, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i’r deddfiadau canlynol—

(a)

Rhan 9 o Ddeddf Tai 1985 (clirio slymiau);

(b)

Rhan 10 o Ddeddf Tai 1985 (gorlenwi);

(c)

Rhan 1 o Ddeddf Tai 2004 (cyflwr tai);

(d)

Rhan 2 o Ddeddf Tai 2004 (trwyddedu tai amlfeddiannaeth);

(e)

Rhan 3 o Ddeddf Tai 2004 (trwyddedu dethol ar gyfer llety preswyl arall);

(f)

Rhan 4 o Ddeddf Tai 2004 (darpariaethau rheoli atodol mewn perthynas â llety preswyl);

(g)

Rhan 1 o’r Ddeddf hon (rheoleiddio tai rhentu preifat).

(2)

Wrth benderfynu a yw llety’n addas ar gyfer person, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i pa un a yw’r llety yn fforddiadwy i’r person hwnnw ai peidio.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru bennu’r canlynol drwy orchymyn—

(a)

amgylchiadau lle bo llety i’w ystyried yn addas ar gyfer person, a lle na fo i’w ystyried felly, a

(b)

materion i’w hystyried neu i’w diystyru wrth benderfynu a yw llety yn addas ar gyfer person.