Deddf Tai (Cymru) 2014

56Ystyr llety sydd ar gael i’w feddiannuLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caniateir i lety gael ei ystyried yn llety sydd ar gael i berson ei feddiannu ond os yw ar gael i’r person hwnnw ei feddiannu ynghyd ag—

(a)unrhyw berson arall sy’n preswylio gyda’r person hwnnw fel arfer fel aelod o’i deulu, neu

(b)unrhyw berson arall y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r person hwnnw.

(2)Dylid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at sicrhau bod llety ar gael i berson ei feddiannau yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 56 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 7