RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Gwahardd gosod a rheoli heb gofrestriad a thrwydded

5Eithriadau i’r gofyniad i landlord fod yn gofrestredig

F1(1)

Nid yw’r gofyniad yn adran 4(1) yn gymwys—

(a)

os yw’r landlord wedi gwneud cais i’r awdurdod trwyddedu i fod yn gofrestredig mewn perthynas â’r annedd honno ac na phenderfynwyd ar y cais;

(b)

am gyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr aseinir buddiant y landlord yn yr annedd i’r landlord;

(c)

os yw’r landlord yn cymryd camau i adennill meddiant o’r annedd o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr aseinir buddiant y landlord yn yr annedd i’r landlord, am ba hyd bynnag ag y bydd y landlord yn parhau yn ddiwyd i geisio adennill meddiant;

F2(d)

i landlord sy’n dod o fewn y diffiniad o landlord cymunedol (pa un ai’r landlord yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth ai peidio);

(e)

i landlord sy’n gymdeithas dai gwbl gydfuddiannol;

(f)

i berson o ddisgrifiad a bennir at ddibenion yr adran hon mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.