RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Cyffredinol

49Dehongli’r Rhan hon a mynegai o dermau wedi eu diffinio

(1)

Yn y Rhan hon—

mae i “annedd” (“dwelling”) yr ystyr a roddir gan adran 2;

ystyr “awdurdod trwyddedu” (“licensing authority”) yw person sydd wedi ei ddynodi drwy orchymyn o dan adran 3;

mae i “cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol” yr un ystyr a roddir i “fully mutual housing association” gan adran 1(2) o Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985;

mae i “eiddo ar rent” (“rental property”) yr ystyr a roddir gan adran 2;

mae i “gwaith gosod” (“lettings work”) yr ystyr a roddir gan adran 10;

mae i “gwaith rheoli eiddo” (“property management work”) yr ystyr a roddir gan adran 12;

mae i “landlord” (“landlord”) yr ystyr a roddir gan adran 2;

ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw landlord cofrestredig sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996;

ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw rhagnodedig mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru;

ystyr “taliadau cyfnodol” (“periodical payments”) yw taliadau drwy rent neu dâl gwasanaeth;

mae i “tenantiaeth ddomestig” (“domestic tenancy”) yr ystyr a roddir gan adran 2.

(2)

Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at aseinio buddiant i landlord—

(a)

yn cynnwys unrhyw drawsgludiad ac eithrio morgais neu arwystl, a

(b)

os ymddiriedolwyr yw’r landlord, nid yw’n cynnwys newid yn y personau sydd, am y tro, yn ymddiriedolwyr i’r ymddiriedolaeth.

(3)

Yn y Rhan hon—

(a)

mae unrhyw gyfeiriad at gais am drwydded yn cynnwys cyfeiriad at gais am adnewyddu trwydded, a

(b)

mae unrhyw gyfeiriad at roi trwydded gan awdurdod trwyddedu yn cynnwys cyfeiriad at adnewyddu trwydded;

ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.