RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Atodol
48Rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth o’r Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol neu’n ei awdurdodi (ym mha dermau bynnag) i—
(a)
hysbysu person am rywbeth, neu
(b)
rhoi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).
(2)
Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi neu i’r ddogfen gael ei rhoi i’r person o dan sylw—
(a)
drwy ei draddodi neu ei thraddodi i’r person,
(b)
drwy ei anfon neu ei hanfon drwy’r post i gyfeiriad cywir y person,
(c)
drwy ei adael neu ei gadael yn nghyfeiriad cywir y person, neu
(d)
os yw’r amodau yn is-adran (4) yn cael eu bodloni, drwy ei anfon neu ei hanfon yn electronig.
(3)
Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi neu i’r ddogfen gael ei rhoi i gorff corfforaethol drwy ei roi neu ei rhoi i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.
(4)
Caiff person perthnasol anfon hysbysiad neu ddogfen yn electronig at berson dim ond os bodlonir y gofynion a ganlyn—
(a)
rhaid i’r person y mae’r hysbysiad neu’r ddogfen i’w roi neu ei rhoi iddo fod wedi—
(i)
nodi wrth y person perthnasol barodrwydd i gael yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig, a
(ii)
rhoi cyfeiriad sy’n addas at y diben hwnnw i’r person perthnasol, a
(b)
rhaid i’r person perthnasol anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen i’r cyfeiriad hwnnw.
(5)
At ddibenion yr adran hon ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 (cyfeiriadau at gyflwyno drwy’r post) yn ei gymhwysiad i’r adran hon, cyfeiriad cywir person yw—
(a)
yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;
(b)
mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person.
(6)
Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei adael neu ei gadael yng nghyfeiriad cywir y person i’w drin neu ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel ei fod neu ei bod wedi ei roi neu ei rhoi ar yr amser y gadawyd ef neu hi yn y cyfeiriad.
(7)
Mae pob un o’r canlynol yn “berson perthnasol” at ddibenion yr adran hon—
(a)
awdurdod trwyddedu;
(b)
awdurdod tai lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu;
(c)
person sydd, yn rhinwedd awdurdodiad ysgrifenedig, yn arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ar ran awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol o’r math a grybwyllir ym mharagraff (b).