xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Ni chaniateir rhoi [F1hysbysiad o fewn is-adran (1A)] mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig [F2sy’n gontract meddiannaeth safonol] os—
(a)nad yw’r landlord yn gofrestredig mewn perthynas â’r annedd, neu
(b)nad yw’r landlord yn drwyddedig o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi ac nad yw wedi penodi person sydd yn drwyddedig o dan y Rhan hon i ymgymryd â’r holl waith rheoli eiddo mewn perthynas â’r annedd ar ran y landlord.
[F3(1A)Mae hysbysiad o fewn yr is-adran hon os yw’n hysbysiad—
(a)a roddir o dan adran 173(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (hysbysiad y landlord);
(b)a roddir o dan adran 186(1) o’r Ddeddf honno (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);
(c)fel y’i disgrifir yn adran 194(1) o’r Ddeddf honno (cymal terfynu’r landlord);
(d)a roddir o dan baragraff 25B o Atodlen 12 i’r Ddeddf honno (hysbysiad y landlord i derfynu contract safonol cyfnod penodol wedi ei drosi).]
(2)[F4Nid yw] is-adran (1) yn gymwys am y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod pan fo buddiant y landlord yn yr annedd yn cael ei aseinio i’r landlord.
F5(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 44(1) wedi eu hamnewid (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(7)(a)(i)
F2Geiriau yn a. 44(1) wedi eu hamnewid (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(7)(a)(ii)
F3A. 44(1A) wedi ei fewnosod (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(7)(b)
F4Gair yn a. 44(2) wedi ei amnewid (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(7)(c)
F5A. 44(3) wedi ei hepgor (1.12.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(7)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 44 mewn grym ar 23.11.2016 gan O.S. 2016/1066, ergl. 2
I3A. 44 mewn grym ar 23.11.2016 gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(2)(w)