RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Atodol

44Cyfyngiad ar derfynu tenantiaethau

(1)

Ni chaniateir rhoi F1hysbysiad o fewn is-adran (1A) mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig F2sy’n gontract meddiannaeth safonol os—

(a)

nad yw’r landlord yn gofrestredig mewn perthynas â’r annedd, neu

(b)

nad yw’r landlord yn drwyddedig o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi ac nad yw wedi penodi person sydd yn drwyddedig o dan y Rhan hon i ymgymryd â’r holl waith rheoli eiddo mewn perthynas â’r annedd ar ran y landlord.

F3(1A)

Mae hysbysiad o fewn yr is-adran hon os yw’n hysbysiad—

(a)

a roddir o dan adran 173(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (hysbysiad y landlord);

(b)

a roddir o dan adran 186(1) o’r Ddeddf honno (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);

(c)

fel y’i disgrifir yn adran 194(1) o’r Ddeddf honno (cymal terfynu’r landlord);

(d)

a roddir o dan baragraff 25B o Atodlen 12 i’r Ddeddf honno (hysbysiad y landlord i derfynu contract safonol cyfnod penodol wedi ei drosi).

(2)

F4Nid yw is-adran (1) yn gymwys am y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod pan fo buddiant y landlord yn yr annedd yn cael ei aseinio i’r landlord.

F5(3)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .