RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Pwerau Gweinidogion Cymru
42Cyfarwyddiadau
(1)
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i awdurdod trwyddedu gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(2)
Wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu, rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(3)
Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) gael ei roi yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodedig.
(4)
Mewn perthynas â chyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—
(a)
caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd dilynol;
(b)
rhaid iddo gael ei gyhoeddi.