RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Pwerau Gweinidogion Cymru
41Canllawiau
(1)
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i awdurdod trwyddedu roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(2)
Wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)
rhoi canllawiau o dan y Rhan hon yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodedig;
(b)
diwygio canllawiau a roddir o dan y Rhan hon drwy roi canllawiau pellach;
(c)
dirymu canllawiau a roddir o dan y Rhan hon drwy roi canllawiau pellach neu drwy hysbysiad.
(4)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau o dan y Rhan hon neu hysbysiad o dan yr adran hon.
(5)
Cyn rhoi, diwygio neu ddirymu canllawiau o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw bersonau ag y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.
(6)
Gall ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym fodloni’r gofyniad yn is-adran (5).