RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Gorfodi

31Dirymu gorchmynion atal rhent

(1)

Caiff tribiwnlys eiddo preswyl, yn unol â’r adran hon, ddirymu gorchymyn atal rhent a wnaed mewn cysylltiad ag annedd o dan adran 30.

(2)

Caiff y tribiwnlys ddirymu gorchymyn dim ond—

(a)

ar gais gan y canlynol—

(i)

yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi,

(ii)

yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi, neu

(iii)

landlord yr annedd, a

(b)

os yw wedi ei fodloni nad yw trosedd o dan adran 7(5) neu 13(3) bellach yn cael ei chyflawni mewn perthynas â’r annedd.

(3)

Ond ni chaiff awdurdod tai lleol wneud cais o dan is-adran (2) heb gydsyniad yr awdurdod trwyddedu a grybwyllir ym mharagraff (a)(i) o’r is-adran honno (oni bai mai’r awdurdod tai lleol yw’r awdurdod trwyddedu); a chaiff cydsyniad at y diben hwnnw gael ei roi yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â chais penodol.

(4)

Pan fo’r tribiwnlys yn dirymu gorchymyn atal rhent, mae taliadau cyfnodol mewn cysylltiad â thenantiaeth ddomestig o’r annedd yn dod yn daladwy o ddyddiad a bennir gan y tribiwnlys (a gaiff, os yw’r tribiwnlys yn ei ystyried yn briodol, fod yn ddyddiad cynharach na’r dyddiad y mae’r gorchymyn yn cael ei ddirymu).

(5)

Ond nid yw dirymu gorchymyn atal rhent yn gwneud person yn atebol i dalu unrhyw daliadau cyfnodol a ataliwyd, yn rhinwedd y gorchymyn, mewn cysylltiad â’r cyfnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad atal (gweler adran 30(3)(a)) ac sy’n dod i ben gyda’r dyddiad a bennir gan y tribiwnlys wrth ddirymu’r gorchymyn.

(6)

Os yw gorchymyn atal rhent yn cael ei ddirymu yn dilyn cais a wnaed o dan is-adran (2)(a)(i) neu (ii), rhaid i’r awdurdod a wnaeth y cais hysbysu’r personau a ganlyn fod y gorchymyn wedi ei ddirymu ac am effaith y dirymiad—

(a)

unrhyw denant neu feddiannydd yr annedd, a

(b)

landlord yr annedd.

(7)

Pan fo dirymiad yn digwydd yn dilyn cais a wnaed gan landlord, rhaid i’r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi sicrhau bod unrhyw denant neu feddiannydd yr annedd yn cael ei hysbysu bod y gorchymyn wedi ei ddirymu ac am effaith y dirymiad.

(8)

Yn is-adran (2)(b)—

(a)

nid yw’r cyfeiriad at drosedd o dan adran 7(5) yn cynnwys trosedd a gyflawnwyd o ganlyniad i dorri is-adran (3) o’r adran honno, a

(b)

nid yw’r cyfeiriad at drosedd a gyflawnwyd o dan 13(3) yn cynnwys trosedd a gyflawnwyd o ganlyniad i dorri is-adran (1) o’r adran honno.