RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Gorfodi
29Hysbysiadau cosbau penodedig
(1)
Pan fo gan berson sydd wedi’i awdurdodi yn ysgrifenedig at ddiben yr adran hon gan awdurdod trwyddedu reswm i gredu ar unrhyw achlysur bod person wedi cyflawni trosedd o dan y Rhan hon (ac eithrio trosedd o dan adran 13(3) neu adran 38(4)), caiff y person awdurdodedig, drwy hysbysiad, gynnig cyfle i’r person ryddhau ei hun o unrhyw atebolrwydd am gollfarn am y drosedd honno drwy dalu cosb benodedig i’r awdurdod.
(2)
Pan roddir hysbysiad i berson o dan yr adran hon mewn perthynas â throsedd—
(a)
ni chaniateir cychwyn unrhyw achos mewn perthynas â’r drosedd cyn i’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad hwnnw ddod i ben;
(b)
ni chaniateir collfarnu’r person am y drosedd honno os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(3)
Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon—
(a)
rhoi pa fanylion bynnag am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd sy’n angenrheidiol er mwyn rhoi gwybodaeth resymol ynghylch y drosedd,
(b)
datgan yn ystod pa gyfnod na chychwynnir achos mewn perthynas â’r drosedd,
(c)
datgan swm y gosb benodedig, a
(d)
datgan i ba berson ac ym mha gyfeiriad y gellir talu’r gosb benodedig.
(4)
Y gosb benodedig sy’n daladwy i awdurdod trwyddedu o dan yr adran hon yw £150 oni bai bod y drosedd yn un sy’n dwyn dirwy anghyfyngedig yn ei sgil; mewn achos felly, y gosb benodedig sy’n daladwy yw £250.
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (4) drwy orchymyn.
(6)
Caniateir talu cosb benodedig drwy ragdalu a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person a grybwyllir yn is-adran (3)(d) yn y cyfeiriad a grybwyllir yno; ond nid yw hynny’n rhwystro taliad drwy ddull arall.
(7)
Pan fo llythyr yn cael ei bostio yn unol ag is-adran (6) bernir bod y taliad wedi ei wneud ar yr amser y byddai’r llythyr wedi ei ddosbarthu yn nhrefn arferol y post.
(8)
Mewn unrhyw achos mae tystysgrif—
(a)
sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi ar ran person sydd wedi’i awdurdodi gan yr awdurdod trwyddedu at y diben hwn, a
(b)
sy’n datgan y daeth taliad cosb benodedig i law neu na ddaeth i law erbyn dyddiad a bennir yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.
(9)
Ni chaniateir i awdurdod trwyddedu ddefnyddio ei dderbyniadau cosbau penodedig ond at ddibenion ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi’r Rhan hon.
(10)
Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod trwyddedu”—
(a)
mewn achos trosedd o dan adran 4(2), 6(4), 7(5), 9(2) neu 11(3), yw’r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd y mae’r drosedd yn ymwneud â hi wedi ei lleoli ynddi;
(b)
mewn achos trosedd o dan adran 16(3) neu 23(3), yw’r awdurdod trwyddedu y darparwyd yr wybodaeth y mae’r trosedd yn ymwneud â hi iddo;
(c)
mewn achos trosedd o dan adran 38(1), yw’r awdurdod trwyddedu a awdurdododd y person a roddodd yr hysbysiad perthnasol;
(d)
mewn achos trosedd o dan adran 39(1) neu (2), yw’r awdurdod trwyddedu y cyflenwyd yr wybodaeth iddo.
(11)
Caiff awdurdod tai lleol nad yw’n awdurdod trwyddedu ar gyfer ei ardal, gyda chydsyniad yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal honno, arfer swyddogaethau’r awdurdod trwyddedu o dan yr adran hon yn gydredol â’r awdurdod trwyddedu; ond dim ond o ran y troseddau a grybwyllir yn is-adran (10)(a).
(12)
Pan fo awdurdod tai lleol yn arfer swyddogaethau o dan yr adran hon yn rhinwedd is-adran (11), mae’r cyfeiriadau yn is-adrannau (1), (4), (8), (9) a (10)(a) at “awdurdod trwyddedu” i’w darllen fel petaent yn gyfeiriadau at yr awdurdod tai lleol.