RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Trwyddedu
25Dirymu trwydded
(1)
Caiff awdurdod trwyddedu ddirymu trwydded—
(a)
os yw deiliad y drwydded wedi torri un neu ragor o amodau’r drwydded;
(b)
os nad yw’r awdurdod wedi ei fodloni bellach bod deiliad y drwydded yn berson addas a phriodol i ddal trwydded;
(c)
os yw deiliad y drwydded wedi torri adran 23 (dyletswydd deiliad trwydded i ddiweddaru gwybodaeth);
(d)
os yw deiliad y drwydded a’r awdurdod trwyddedu wedi cytuno y dylid dirymu’r drwydded.
(2)
Ond cyn dirymu trwydded rhaid i awdurdod trwyddedu—
(a)
hysbysu deiliad y drwydded am ei fwriad i ddirymu’r drwydded a’r rhesymau dros hynny, a
(b)
ystyried unrhyw sylwadau a gynigir gan ddeiliad y drwydded cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr hysbyswyd deiliad y drwydded.
(3)
Nid yw is-adran (2)(b) yn gymwys—
(a)
os yw deiliad y drwydded yn cydsynio i’r dirymiad, neu
(b)
pan fo awdurdod trwyddedu yn ystyried bod amgylchiadau eithriadol sy’n golygu bod angen dirymu’r drwydded yn ddi-oed.
(4)
Ar ôl dirymu trwydded rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu deiliad y drwydded—
(a)
am y dirymiad a’r rhesymau dros wneud hynny;
(b)
am hawl deiliad y drwydded i apelio (gweler adran 27).
(5)
Mae dirymiad trwydded yn cael effaith ar y diwrnod y mae pa un bynnag o’r canlynol yn digwydd gyntaf—
(a)
mae deiliad y drwydded yn cysylltu â’r awdurdod trwyddedu er mwyn cydsynio i’r dirymiad;
(b)
pan na fo deiliad y drwydded yn apelio yn erbyn y penderfyniad i ddirymu’r cofrestriad o fewn y cyfnod apelio, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben;
(c)
pan fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio ond yn tynnu’r apêl yn ôl yn ddiweddarach, dyddiad ei dynnu’n ôl;
(d)
pan fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio a’r tribiwnlys eiddo preswyl yn cadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i ddirymu’r drwydded, yn ddarostyngedig i baragraff (e), dyddiad penderfyniad y tribiwnlys;
(e)
pan fo deiliad y drwydded yn cyflwyno apêl bellach, y dyddiad y mae pob dull o apelio yn erbyn y penderfyniad wedi ei ddisbyddu a phenderfyniad yr awdurdod trwyddedu yn cael ei gadarnhau.
(6)
Y “cyfnod apelio” at ddibenion is-adran (5) yw’r cyfnod hwnnw a grybwyllir yn adran 27(3)(a) (apelau trwyddedu).
(7)
Pan fo trwydded person i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran landlord yn cael ei ddirymu, rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu unrhyw landlord a gofnodwyd ar ei gofrestr fel rhywun a benododd y person hwnnw.
(8)
Pan fo trwydded landlord yn cael ei ddirymu, rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu tenantiaid neu feddianwyr eiddo ar rent a gofrestrwyd o dan enw’r landlord.