RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Trwyddedu
24Diwygio trwydded
(1)
Caiff awdurdod trwyddedu, yn unol â’r adran hon, ddiwygio unrhyw drwydded a roddir ganddo.
(2)
Caniateir diwygio trwydded er mwyn—
(a)
gosod amodau newydd;
(b)
dileu neu newid amodau presennol (ac eithrio’r gofyniad i gydymffurfio ag unrhyw god ymarfer a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru).
(3)
Ond cyn penderfynu diwygio trwydded rhaid i awdurdod trwyddedu—
(a)
hysbysu deiliad y drwydded am ei fwriad i ddiwygio’r drwydded a’r rhesymau dros hynny, a
(b)
ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan ddeiliad y drwydded cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr hysbyswyd y person.
(4)
Nid yw is-adran (3)(b) yn gymwys i ddiwygiad—
(a)
os yw deiliad y drwydded yn cydsynio iddo, neu
(b)
pan fo awdurdod trwyddedu yn ystyried bod amgylchiadau eithriadol sy’n golygu bod angen ei wneud yn ddi-oed.
(5)
Ar ôl diwygio trwydded rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu deiliad y drwydded am—
(a)
y diwygiad a’r rhesymau drosto;
(b)
ac eithrio pan fo deilad y drwydded wedi cydsynio i’r diwygiad, gwybodaeth am hawl deiliad y drwydded i apelio (gweler adran 27).
(6)
Mae diwygiad i drwydded yn cael effaith ar y diwrnod y mae pa un bynnag o’r canlynol yn digwydd gyntaf—
(a)
pan fo deiliad y drwydded wedi cydsynio, pan fydd yr awdurdod trwyddedu yn hysbysu deiliad y drwydded o dan is-adran (5);
(b)
pan nad yw deiliad y drwydded yn apelio yn erbyn y penderfyniad i ddiwygio’r drwydded o fewn y cyfnod apelio, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben;
(c)
pan fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio ond yn tynnu’r apêl yn ôl yn ddiweddarach, dyddiad ei dynnu’n ôl;
(d)
pan fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio a’r tribiwnlys eiddo preswyl yn cadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i ddiwygio’r drwydded, yn ddarostyngedig i baragraff (e), dyddiad penderfyniad y tribiwnlys;
(e)
pan fo deiliad y drwydded yn cyflwyno apêl bellach, y dyddiad y mae pob dull o apelio yn erbyn y penderfyniad wedi ei ddisbyddu a phenderfyniad yr awdurdod trwyddedu yn cael ei gadarnhau.
(7)
Y “cyfnod apelio” at ddibenion is-adran (6) yw’r cyfnod hwnnw a grybwyllir yn adran 27(3)(a) (apelau trwyddedu).