RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Trwyddedu

23Dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth

(1)

Rhaid i ddeiliad trwydded hysbysu’r awdurdod trwyddedu yn ysgrifenedig am y newidiadau a ganlyn—

(a)

unrhyw newid yn yr enw y cofrestrir deiliad y drwydded oddi tano;

(b)

unrhyw newidiadau rhagnodedig.

(2)

Rhaid i ddeiliad trwydded gydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (1) o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod cyntaf yr oedd deiliad y drwydded yn gwybod am y newid, neu y dylai fod wedi gwybod amdano.

(3)

Mae person sy’n torri’r adran hon yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(4)

Mewn achos yn erbyn person am drosedd a gyflawnwyd o dan is-adran (3) mae’r ffaith bod gan y person esgus rhesymol am fethu â chydymffurfio yn amddiffyniad.