RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Trwyddedu

22Amodau trwydded

(1)

Rhaid rhoi trwydded yn ddarostyngedig i amod bod deiliad y drwydded yn cydymffurfio ag unrhyw god ymarfer a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 40.

(2)

Caiff awdurdod trwyddedu roi trwydded yn ddarostyngedig i’r cyfryw amodau pellach ag y mae’n eu hystyried yn briodol.