RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Cyflwyniad

2Ystyr y prif dermau

(1)

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “annedd” (“dwelling”) yw adeilad neu ran o adeilad a feddiennir neu y bwriedir ei feddiannu fel annedd ar wahân, ynghyd ag unrhyw fuarth, gardd, tai allan ac atodynnau sy’n perthyn iddo neu a fwynheir gydag ef fel arfer, pan fo’r annedd gyfan yng Nghymru;

  • ystyr “eiddo ar rent” (“rental property”) yw annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, neu sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig i’w gosod o dan denantiaeth o’r fath;

  • ystyr “landlord” (“landlord”)—

    1. (a)

      mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, yw’r landlord uniongyrchol neu, mewn perthynas â thenant statudol, y person a fyddai, ar wahân i’r denantiaeth statudol, â’r hawl i feddiannu’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r denantiaeth, a

    2. (b)

      mewn perthynas ag annedd nad yw’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, y person a fyddai’n landlord uniongyrchol pe bai’r annedd yn cael ei gosod o dan denantiaeth ddomestig;

  • ystyr “tenantiaeth ddomestig” (“domestic tennancy”) yw—

    1. (a)

      F1tenantiaeth sy’n gontract meddiannaeth, ac eithrio pan fo’r contract meddiannaeth—

      1. (i)

        yn gontract safonol â chymorth, neu

      2. (ii)

        hefyd yn les hir at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (“Deddf 1993”) neu, yn achos les rhanberchnogaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “shared ownership lease” gan adran 7(7) o Ddeddf 1993), a fyddai’n les o’r fath pe bai cyfran y tenant (o fewn yr ystyr a roddir gan yr adran honno) yn 100 y cant;

    2. (b)

      tenantiaeth reoleiddiedig at ddibenion Deddf Rhenti 1977, neu

    3. (c)

      tenantiaeth y mae annedd yn cael ei gosod fel annedd ar wahân oddi tani ac sydd o ddisgrifiad a bennir at ddibenion y Rhan hon mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)

Yn yr adran hon, ystyr “tenant statudol” a “tenantiaeth statudol” yw tenant statudol neu denantiaeth statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory tenant” a “statutory tenancy” yn Neddf Rhenti 1977.