RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Trwyddedu
I1I2I319Gofynion cais am drwydded
1
Rhaid i gais am drwydded—
a
cael ei wneud ar y gyfryw ffurf ag sy’n ofynnol gan yr awdurdod trwyddedu,
b
darparu’r gyfryw wybodaeth ag sy’n rhagnodedig,
c
darparu’r gyfryw wybodaeth arall ag sy’n ofynnol gan yr awdurdod, ac
d
cael ei yrru ynghyd â’r ffi ragnodedig.
2
Cyn rhoi trwydded rhaid i awdurdod trwyddedu fod yn fodlon—
a
bod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn drwyddedig (gweler adran 20);
b
bod gofynion mewn perthynas â hyfforddiant a bennir mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru neu oddi tanynt wedi eu bodloni neu y byddant yn cael eu bodloni (yn ôl y digwydd).
3
Caiff rheoliadau o dan is-adran (2)(b) (ymhlith pethau eraill)—
a
awdurdodi awdurdod trwyddedu i bennu gofynion mewn perthynas â hyfforddiant mewn cysylltiad â’r canlynol—
i
ymrwymiadau statudol landlord a thenant;
ii
y berthynas gontractiol rhwng landlord a thenant;
iii
rôl asiant sy’n cyflawni gwaith gosod neu waith rheoli eiddo;
iv
arferion gorau wrth osod a rheoli anheddau sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, neu sy’n cael eu marchnata neu eu cynnig ar gyfer eu gosod o dan denantiaeth o’r fath;
b
gwneud darpariaeth o ran ac mewn cysylltiad â’i gwneud yn ofynnol i hyfforddiant—
i
cael ei gynnal gan bersonau sydd wedi eu hawdurdodi i wneud hynny gan yr awdurdod trwyddedu neu Weinidogion Cymru;
ii
cael ei gyflwyno drwy gyrsiau hyfforddi a gymeradwywyd gan yr awdurdod trwyddedu neu Weinidogion Cymru;
mae hyn yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer codi ffioedd ar gyfer awdurdodiad neu gymeradwyaeth.