RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Cofrestru

17Dirymu cofrestriad

(1)

Caiff awdurdod trwyddedu ddirymu cofrestriad unrhyw landlord—

(a)

sy’n darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn cais o dan adran 15 neu wrth hysbysu am newid o dan adran 16;

(b)

sy’n torri adran 16;

(c)

sy’n methu â thalu unrhyw ffi bellach sy’n cael ei chodi o dan adran 15.

(2)

Cyn dirymu cofrestriad landlord rhaid i awdurdod trwyddedu—

(a)

hysbysu’r landlord am ei fwriad i ddirymu’r cofrestriad a’r rhesymau dros hynny, a

(b)

ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan y landlord cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr hysbyswyd y landlord.

(3)

Ar ôl dirymu cofrestriad landlord rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu’r landlord—

(a)

am y dirymiad a’r rhesymau dros wneud hynny;

(b)

am hawl y landlord i apelio.

(4)

Caiff person y dirymir ei gofrestriad apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys eiddo preswyl.

(5)

Mewn perthynas ag apêl—

(a)

rhaid iddo gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr hysbyswyd y person am y penderfyniad (y “cyfnod apelio”);

(b)

caniateir penderfynu arno gan roi sylw i faterion nad oedd yr awdurdod trwyddedu yn ymwybodol ohonynt.

(6)

Caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gyflwyno iddo ar ôl diwedd y cyfnod apelio os yw’n fodlon bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (ac am unrhyw oedi cyn gofyn am ganiatâd i apelio y tu allan i’r cyfnod hwnnw).

(7)

Caiff y tribiwnlys gadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu neu gyfarwyddo’r awdurdod i gofrestru’r landlord.

(8)

Mae dirymiad cofrestriad landlord yn cael effaith ar y diwrnod y mae pa un bynnag o’r canlynol yn digwydd gyntaf—

(a)

pan nad yw’r landlord yn apelio yn erbyn y penderfyniad i ddirymu’r cofrestriad o fewn y cyfnod apelio, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben;

(b)

pan fo’r landlord yn apelio o fewn y cyfnod apelio ond yn tynnu’r apêl yn ôl yn ddiweddarach, dyddiad ei dynnu’n ôl;

(c)

pan fo’r landlord yn apelio o fewn y cyfnod apelio a’r tribiwnlys eiddo preswyl yn cadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu, yn ddarostyngedig i baragraff (d), dyddiad penderfyniad y tribiwnlys;

(d)

pan fo’r landlord yn cyflwyno apêl bellach, y dyddiad y mae pob dull o apelio yn erbyn y penderfyniad wedi ei ddisbyddu a phenderfyniad yr awdurdod trwyddedu yn cael ei gadarnhau.

(9)

Pan fo cofrestriad landlord yn cael ei ddirymu, rhaid i’r awdurdod trwyddedu—

(a)

hysbysu unrhyw berson a gofnodwyd ar y gofrestr fel person a benodwyd gan y landlord i ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo ar ran y landlord, a

(b)

hysbysu tenantiaid neu feddianwyr eiddo ar rent a gofrestrwyd o dan enw’r landlord.