16Dyletswydd i ddiweddaru gwybodaethLL+C
(1)Rhaid i landlord sy’n gofrestredig o dan adran 15 mewn perthynas ag eiddo ar rent hysbysu’r awdurdod trwyddedu yn ysgrifenedig am y newidiadau a ganlyn—
(a)unrhyw newid yn yr enw y cofrestrir y landlord oddi tano;
(b)penodi person i ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas â’r eiddo ar rent;
(c)bod person a benodwyd yn flaenorol gan y landlord i ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas â’r eiddo ar rent wedi rhoi’r gorau i wneud hynny;
(d)unrhyw aseiniad o fuddiant y landlord yn yr eiddo ar rent;
(e)unrhyw newidiadau rhagnodedig.
(2)Rhaid i landlord gydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (1) o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod cyntaf yr oedd y landlord yn gwybod am y newid, neu y dylai fod wedi gwybod amdano.
(3)Mae person sy’n torri is-adran (1) yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.
(4)Mewn achos yn erbyn person am drosedd a gyflawnwyd o dan is-adran (3) mae’r ffaith bod gan y person esgus rhesymol am fethu â chydymffurfio yn amddiffyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 16 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2
I3A. 16 mewn grym ar 23.11.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(f)