xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CRHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

CofrestruLL+C

15Cofrestru gan awdurdod trwyddeduLL+C

(1)Mae cais i fod yn gofrestredig i gael ei wneud i’r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd y mae’r cais yn ymwneud â hi wedi ei lleoli ynddi; a rhaid i’r awdurdod gofrestru’r landlord o fewn y cyfnod rhagnodedig os yw’r cais—

(a)yn cael ei wneud ar y ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod,

(b)yn cynnwys y gyfryw wybodaeth ag sy’n rhagnodedig,

(c)yn cynnwys y gyfryw wybodaeth arall ag sy’n ofynnol gan yr awdurdod, ac

(d)wedi ei yrru ynghyd â’r ffi ragnodedig.

(2)Os yw’r landlord yn gofrestredig, rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu’r landlord—

(a)bod y landlord yn gofrestredig, a

(b)am y rhif cofrestru sydd wedi ei neilltuo i’r landlord.

(3)Ar yr achlysur cyntaf y bydd landlord yn cael ei gofrestru rhaid i awdurdod trwyddedu neilltuo rhif cofrestru i’r landlord.

(4)Caiff awdurdod trwyddedu godi ffi ragnodedig bellach ar y landlord am barhau yn gofrestredig, ond ni chaiff wneud hynny—

(a)cyn pen 5 mlynedd ar ôl y dyddiad y cofrestrwyd y landlord, a

(b)cyn pen pob cyfnod o 5 mlynedd ar ôl y dyddiad y codwyd ffi ragnodedig bellach.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 15 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

I3A. 15 mewn grym ar 23.11.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(e)