RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Cofrestru
14Dyletswydd i gynnal cofrestr mewn perthynas ag eiddo ar rent
(1)
Rhaid i awdurdod trwyddedu greu a chynnal cofrestr ar gyfer ei ardal sydd yn cofnodi’r wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1.
(2)
Mae Rhan 2 o Atodlen 1 yn cynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â chaniatáu i’r cyhoedd gael mynediad at wybodaeth a ddelir ar y gofrestr.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 1 drwy orchymyn.