RHAN 5CYLLID TAI
Darpariaeth gyffredinol
I1136Dyfarniadau o dan y Rhan hon
1
Caiff dyfarniad o dan y Rhan hon wneud gwahanol ddarpariaeth ar gyfer gwahanol achosion neu ddisgrifiadau o achos, gan gynnwys gwahanol ddarpariaeth—
a
ar gyfer gwahanol ardaloedd;
b
ar gyfer gwahanol awdurdodau tai lleol;
c
ar gyfer gwahanol ddisgrifiadau o awdurdod tai lleol.
2
Cyn gwneud dyfarniad o dan y Rhan hon sy’n ymwneud â phob awdurdod tai lleol neu ddisgrifiad o awdurdod tai leol, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw—
a
gynrychiolwyr llywodraeth leol yng Nghymru, a
b
personau eraill,
ag y bo’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
3
Cyn gwneud dyfarniad o dan y Rhan hon sy’n ymwneud ag awdurdod tai lleol neilltuol, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod tai lleol hwnnw.
4
Cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi gwneud dyfarniad o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r dyfarniad at yr awdurdod neu’r awdurdodau tai lleol y mae’n ymwneud â hwy.
5
Mae is-adrannau (4) i (7) o adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (defnyddio dulliau cyfathrebu electronig i anfon copïau o ddyfarniadau) yn berthnasol i ddyfarniad o dan y Rhan hon fel ag y maent yn berthnasol i ddyfarniad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ran 6 o’r Ddeddf honno.