RHAN 5CYLLID TAI
Taliadau mewn perthynas â Chyfrifon Refeniw Tai
133Taliadau pellach
(1)
Os oes taliad setlo wedi ei wneud mewn perthynas ag awdurdod tai lleol, caiff Gweinidogion Cymru, o bryd i’w gilydd, ddyfarnu bod yn rhaid gwneud taliad pellach a gyfrifir yn unol â’r dyfarniad—
(a)
gan Weinidogion Cymru i’r awdurdod tai lleol, neu
(b)
gan yr awdurdod tai lleol i Weinidogion Cymru.
(2)
Ond ni all Gweinidogion Cymru wneud dyfarniad o dan yr adran hon ond pan fo is-adran (3) neu (4) yn gymwys.
(3)
Mae’r is-adran hon yn gymwys os bu newid mewn unrhyw fater a gymerwyd i ystyriaeth wrth wneud—
(a)
y dyfarniad mewn perthynas â’r taliad setlo neu gyfrifiad o dan y dyfarniad hwnnw, neu
(b)
dyfarniad blaenorol o dan yr adran hon mewn perthynas â’r awdurdod tai lleol neu gyfrifiad o dan y dyfarniad hwnnw.
(4)
Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y cafodd gwall ei ddwyn i ystyriaeth wrth wneud unrhyw benderfyniad neu gyfrifiad o’r math a grybwyllir yn is-adran (3).
(5)
Caniateir amrywio neu ddirymu dyfarniad o dan yr adran hon gan ddyfarniad dilynol.