126Dyletswydd i gydweithreduLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i awdurdod tai lleol roi i Weinidogion Cymru ac unrhyw berson a grybwyllir yn is-adran (2) gymaint o gymorth mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon ag y gallant yn rhesymol ei roi.
(2)Y personau yw—
(a)unrhyw berson a awdurdodir at ddibenion yr adran hon gan Weinidogion Cymru;
(b)unrhyw berson sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau o dan y Rhan hon;
(c)unrhyw berson sy’n cynorthwyo—
(i)Gweinidogion Cymru, neu
(ii)person a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 126 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 126 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1