RHAN 4SAFONAU AR GYFER TAI CYMDEITHASOL

Safonau ar gyfer tai a ddarperir gan awdurdodau tai lleol

126Dyletswydd i gydweithredu

(1)

Rhaid i awdurdod tai lleol roi i Weinidogion Cymru ac unrhyw berson a grybwyllir yn is-adran (2) gymaint o gymorth mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon ag y gallant yn rhesymol ei roi.

(2)

Y personau yw—

(a)

unrhyw berson a awdurdodir at ddibenion yr adran hon gan Weinidogion Cymru;

(b)

unrhyw berson sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau o dan y Rhan hon;

(c)

unrhyw berson sy’n cynorthwyo—

(i)

Gweinidogion Cymru, neu

(ii)

person a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).