xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i awdurdod tai lleol, neu swyddog awdurdod, sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd neu arweiniad o dan y Rhan hon gydymffurfio ag ef.
(2)Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd neu arweiniad i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n amodol ar farn yr awdurdod neu un neu ragor o swyddogion yr awdurdod.
(3)Mae’r canlynol yn berthnasol i gyfarwyddyd o dan y Rhan hon—
(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;
(c)gellir ei orfodi gan orchymyn gorfodi ar gais gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 125 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 125 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1