RHAN 4SAFONAU AR GYFER TAI CYMDEITHASOL
Safonau ar gyfer tai a ddarperir gan awdurdodau tai lleol
125Cyfarwyddiadau
(1)
Rhaid i awdurdod tai lleol, neu swyddog awdurdod, sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd neu arweiniad o dan y Rhan hon gydymffurfio ag ef.
(2)
Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd neu arweiniad i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n amodol ar farn yr awdurdod neu un neu ragor o swyddogion yr awdurdod.
(3)
Mae’r canlynol yn berthnasol i gyfarwyddyd o dan y Rhan hon—
(a)
rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(b)
caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;
(c)
gellir ei orfodi gan orchymyn gorfodi ar gais gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan.