RHAN 4SAFONAU AR GYFER TAI CYMDEITHASOL
Safonau ar gyfer tai a ddarperir gan awdurdodau tai lleol
122Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru neu enwebai gyflawni swyddogaethau
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y swyddogaethau y mae’r sail ar gyfer ymyrryd yn berthnasol iddynt i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir ganddynt.
(3)
Os caiff cyfarwyddyd ei wneud o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod tai lleol gydymffurfio ag arweiniad Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau.