RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Gwahardd gosod a rheoli heb gofrestriad a thrwydded

12Ystyr gwaith rheoli eiddo

(1)

Yn y Rhan hon, ystyr “gwaith rheoli eiddo” yw gwneud unrhyw un o’r pethau canlynol—

(a)

casglu rhent;

(b)

bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer y tenant mewn perthynas â materion sy’n codi o dan y denantiaeth;

(c)

gwneud trefniadau gyda pherson i ymgymryd â gwaith trwsio neu gynnal a chadw;

(d)

gwneud trefniadau gyda thenant neu feddiannwr yr annedd i sicrhau mynediad i’r annedd at unrhyw ddiben;

(e)

cadarnhau cynnwys neu gyflwr yr annedd, neu drefnu iddynt gael eu cadarnhau;

(f)

cyflwyno hysbysiad terfynu tenantiaeth.

(2)

Ond nid yw “gwaith rheoli eiddo” yn cynnwys gwneud unrhyw un o’r pethau ym mharagraffau (b) i (f) o is-adran (1) pan fo’n cael ei wneud gan berson—

(a)

nad yw’n gwneud unrhyw beth arall o fewn is-adran (1), a

(b)

nad yw’n gwneud unrhyw beth o fewn adran 10(1) mewn perthynas â’r annedd.

(3)

Nid yw “gwaith rheoli eiddo” yn cynnwys y canlynol ychwaith—

(a)

gwneud pethau o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth gyda landlord;

(b)

gwneud pethau o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth, neu gontract am wasanaethau, gyda pherson sydd—

(i)

wedi ei gyfarwyddo i ymgymryd â’r gwaith gan landlord, a

(ii)

wedi ei drwyddedu i wneud hynny o dan y Rhan hon;

(c)

unrhyw beth a wneir gan awdurdod tai lleol (pa un a yw’n arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol ai peidio);

(d)

pethau o ddisgrifiad, neu bethau a wneir gan berson o ddisgrifiad, a bennir at ddibenion yr adran hon mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.