RHAN 4SAFONAU AR GYFER TAI CYMDEITHASOL

Safonau ar gyfer tai a ddarperir gan awdurdodau tai lleol

119Pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd

1

Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd o dan y Rhan hon os yw—

a

Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, a

b

bod yr awdurdod tai lleol wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfiaeth, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.

2

Pan fo gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd, rhaid iddynt adolygu’r amgylchiadau sy’n arwain at y pŵer.

3

Os daw Gweinidogion Cymru i’r casgliad yr ymdriniwyd â’r sail ar gyfer ymyrryd er boddhad iddynt neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Rhan hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt hysbysu’r awdurdod tai lleol am eu casgliad yn ysgrifenedig.

4

Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau mewn effaith hyd nes iddynt roi hysbysiad o dan is-adran (3).

5

Pan fo gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau y dywedasant eu bod yn bwriadu eu cymryd mewn hysbysiad rhybuddio.