RHAN 4SAFONAU AR GYFER TAI CYMDEITHASOL

Safonau ar gyfer tai a ddarperir gan awdurdodau tai lleol

113Ymgynghori ar safonau a chanllawiau

Cyn gosod, adolygu neu dynnu’n ôl safonau o dan adran 111 neu ddyroddi, adolygu neu dynnu’n ôl ganllawiau o dan adran 112, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)

un neu ragor o gyrff yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau awdurdodau tai lleol,

(b)

un neu ragor o gyrff yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau tenantiaid, ac

(c)

unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.