106CanllawiauLL+C
(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)rhoi canllawiau naill ai yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiadau penodedig;
(b)diwygio’r canllawiau drwy roi canllawiau pellach o dan yr adran hon;
(c)tynnu’r canllawiau yn ôl drwy roi canllawiau pellach neu drwy hysbysiad.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau neu hysbysiad o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 106 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 106 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(c), Atod. Rhn. 3
I3A. 106 mewn grym ar 25.2.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/380, ergl. 2(d)