ATODLEN 1COFRESTR O DAI RHENT PREIFAT
RHAN 1CYNNWYS COFRESTR
I1I31Landlordiaid
Rhaid i gofnod mewn cofrestr sy’n ymwneud â landlord gofnodi’r canlynol—
a
enw’r landlord;
b
os yw’r landlord yn gorff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y landlord;
c
cyfeiriad pob eiddo ar rent yn ardal yr awdurdod trwyddedu y mae’r landlord yn landlord arno;
d
enw a rhif trwydded unrhyw berson a benodir gan y landlord i ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo ar ran y landlord a chyfeiriad pob eiddo ar rent y mae’r penodiad yn ymwneud ag ef;
e
rhif cofrestru’r landlord;
f
y dyddiad pan gofrestrwyd y landlord;
g
pan fo trwydded wedi cael ei rhoi i’r landlord—
i
y dyddiad pan roddwyd y drwydded neu y cafodd y drwydded ei hadnewyddu;
ii
rhif y drwydded;
iii
a yw’r drwydded wedi ei diwygio o dan adran 24; ac os ydyw y dyddiad y cafodd y diwygiad effaith;
iv
a yw’r drwydded wedi dod i ben heb gael ei hadnewyddu, neu wedi cael ei dirymu; ac os ydyw y dyddiad dod i ben neu ddirymu;
h
pan fo cais gan y landlord am drwydded wedi cael ei wrthod gan yr awdurdod trwyddedu—
i
dyddiad y gwrthodiad;
ii
a gyflwynwyd apêl yn erbyn y gwrthodiad o dan adran 27;
i
pan gyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i wrthod cais, os cadarnhaodd y tribiwnlys neu’r llys benderfyniad yr awdurdod, dyddiad y penderfyniad hwnnw.
j
pan fo tribiwnlys eiddo preswyl wedi gwneud gorchymyn atal rhent (gweler adran 30) mewn cysylltiad ag eiddo preswyl y mae’r landlord yn landlord iddo—
i
bod gorchymyn o’r fath wedi ei wneud;
ii
y dyddiad y daeth y gorchymyn i effaith;
iii
y dyddiad y peidiodd y gorchymyn gael effaith (gweler adran 31).
I2I42Asiantau
Rhaid i gofnod yn y gofrestr ar gyfer person sydd wedi ei drwyddedu i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran landlord gofnodi’r canlynol—
a
enw’r person;
b
cyfeiriad y person ar gyfer gohebiaeth;
c
os yw’r person yn gorff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r person;
d
os yw’r person yn ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran landlord yn rhinwedd busnes, cyfeiriad unrhyw fangre yn ardal yr awdurdod trwyddedu a ddefnyddir at y diben hwnnw;
e
pan fo trwydded wedi ei rhoi i’r person gan yr awdurdod trwyddedu—
i
y dyddiad y rhoddwyd y drwydded;
ii
rhif y drwydded;
iii
a addaswyd y drwydded o dan adran 24; ac os felly y dyddiad y cafodd y diwygiad effaith;
f
pan fo cais gan y person am drwydded wedi ei gwrthod gan yr awdurdod trwyddedu—
i
dyddiad y gwrthodiad;
ii
a gyflwynwyd apêl yn erbyn y gwrthodiad o dan adran 27;
g
pan gyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i wrthod cais, os cadarnhaodd y tribiwnlys neu’r llys benderfyniad yr awdurdod, dyddiad y penderfyniad hwnnw.