ATODLEN 1COFRESTR O DAI RHENT PREIFAT
RHAN 1CYNNWYS COFRESTR
Asiantau
2
Rhaid i gofnod yn y gofrestr ar gyfer person sydd wedi ei drwyddedu i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran landlord gofnodi’r canlynol—
(a)
enw’r person;
(b)
cyfeiriad y person ar gyfer gohebiaeth;
(c)
os yw’r person yn gorff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r person;
(d)
os yw’r person yn ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran landlord yn rhinwedd busnes, cyfeiriad unrhyw fangre yn ardal yr awdurdod trwyddedu a ddefnyddir at y diben hwnnw;
(e)
pan fo trwydded wedi ei rhoi i’r person gan yr awdurdod trwyddedu—
(i)
y dyddiad y rhoddwyd y drwydded;
(ii)
rhif y drwydded;
(iii)
a addaswyd y drwydded o dan adran 24; ac os felly y dyddiad y cafodd y diwygiad effaith;
(f)
pan fo cais gan y person am drwydded wedi ei gwrthod gan yr awdurdod trwyddedu—
(i)
dyddiad y gwrthodiad;
(ii)
a gyflwynwyd apêl yn erbyn y gwrthodiad o dan adran 27;
(g)
pan gyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i wrthod cais, os cadarnhaodd y tribiwnlys neu’r llys benderfyniad yr awdurdod, dyddiad y penderfyniad hwnnw.