xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5CYLLID TAI

Taliadau mewn perthynas â Chyfrifon Refeniw Tai

132Taliadau setlo

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud dyfarniad sy’n darparu ar gyfer cyfrifo swm taliad mewn perthynas â phob awdurdod tai lleol sy’n cadw Cyfrif Refeniw Tai.

(2)Cyfeirir at daliad o’r math a grybwyllir yn is-adran (1) yn y Rhan hon fel “taliad setlo”.

(3)Caiff dyfarniad o dan yr adran hon ddarparu ar gyfer cyfrifo’r swm cyfan neu ran o’r swm yn unol â fformiwla neu fformiwlâu.

(4)Wrth benderfynu ar fformiwla at y diben hwn, caiff Gweinidogion Cymru gynnwys newidynnau sy’n cael eu ffurfio gan gyfeirio at y cyfryw faterion y maent yn eu hystyried yn briodol.

(5)Caiff dyfarniad o dan yr adran hon ddarparu bod effaith y cyfrifiad mewn perthynas ag awdurdod tai lleol fel a ganlyn—

(a)bod yn rhaid i Weinidogion Cymru wneud taliad setlo i’r awdurdod tai lleol,

(b)bod yn rhaid i’r awdurdod tai lleol wneud taliad setlo i Weinidogion Cymru, neu

(c)mai dim yw swm taliad setlo yng nghyswllt yr awdurdod hwnnw.

(6)Nid yw is-adrannau (3), (4) a (5) yn cyfyngu ar gyffredinolrwydd y pŵer a roddir gan is-adran (1).

133Taliadau pellach

(1)Os oes taliad setlo wedi ei wneud mewn perthynas ag awdurdod tai lleol, caiff Gweinidogion Cymru, o bryd i’w gilydd, ddyfarnu bod yn rhaid gwneud taliad pellach a gyfrifir yn unol â’r dyfarniad—

(a)gan Weinidogion Cymru i’r awdurdod tai lleol, neu

(b)gan yr awdurdod tai lleol i Weinidogion Cymru.

(2)Ond ni all Gweinidogion Cymru wneud dyfarniad o dan yr adran hon ond pan fo is-adran (3) neu (4) yn gymwys.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os bu newid mewn unrhyw fater a gymerwyd i ystyriaeth wrth wneud—

(a)y dyfarniad mewn perthynas â’r taliad setlo neu gyfrifiad o dan y dyfarniad hwnnw, neu

(b)dyfarniad blaenorol o dan yr adran hon mewn perthynas â’r awdurdod tai lleol neu gyfrifiad o dan y dyfarniad hwnnw.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y cafodd gwall ei ddwyn i ystyriaeth wrth wneud unrhyw benderfyniad neu gyfrifiad o’r math a grybwyllir yn is-adran (3).

(5)Caniateir amrywio neu ddirymu dyfarniad o dan yr adran hon gan ddyfarniad dilynol.

134Darpariaeth atodol ynghylch taliadau

(1)Rhaid gwneud taliad o dan y Rhan hon yn y cyfryw randaliadau, ar y cyfryw adegau ac yn unol â’r cyfryw drefniadau a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i awdurdod tai lleol ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani wrth wneud taliad o dan y Rhan hon.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru godi llog ar awdurdod tai lleol, ar y cyfryw gyfraddau ac am y cyfryw gyfnodau a benderfynir gan Weinidogion Cymru, ar unrhyw swm a fo’n daladwy gan yr awdurdod tai lleol o dan y Rhan hon nas talwyd erbyn yr adeg a benderfynwyd ar gyfer y taliad o dan yr adran hon.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru godi swm ar awdurdod tai lleol a fo’n gyfwerth ag unrhyw gostau ychwanegol yr aeth Gweinidogion Cymru iddynt o ganlyniad i unrhyw swm a fo’n daladwy gan yr awdurdod tai lleol o dan y Rhan hon nas talwyd erbyn yr adeg a benderfynwyd ar gyfer y taliad o dan yr adran hon.

(5)Rhaid i daliad o dan y Rhan hon ac eithrio taliad o dan is-adran (3) neu (4)—

(a)os y’i gwneir gan awdurdod tai lleol, gael ei drin gan yr awdurdod fel gwariant cyfalaf at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003;

(b)os y’i gwneir i awdurdod tai lleol, gael ei drin gan yr awdurdod fel derbyniad cyfalaf at ddibenion y Bennod honno.

(6)Caiff dyfarniad o dan y Rhan hon ei gwneud hi’n ofynnol i daliad i awdurdod tai lleol a wneir o dan y Rhan hon gael ei ddefnyddio gan yr awdurdod at ddiben a bennir yn y dyfarniad.

(7)Rhaid i awdurdod tai lleol y mae gofyniad o’r fath yn gymwys iddo gydymffurfio â’r gofyniad.

(8)Yn Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cadw’r Cyfrif Refeniw Tai), yn Rhan 2 (debydau i’r cyfrif) wedi Eitem 5A (symiau sy’n daladwy o dan adran 170 o Ddeddf Lleoliaeth 2011) mewnosoder—