Search Legislation

Deddf Tai (Cymru) 2014

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Cyflwyniad

53Trosolwg o’r Bennod hon

(1)Mae’r Bennod hon yn rhoi dyletswyddau ar awdurdodau tai lleol i gynorthwyo pobl sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd ac yn gwneud darpariaeth cysylltiedig.

(2)Mae adrannau 55 i 59 yn diffinio ac yn egluro fel arall ystyr rhai termau allweddol (ceir darpariaeth bellach ynghylch dehongli a mynegai o’r termau a ddiffinnir yn y Bennod hon yn adran 99).

(3)Mae adran 60 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol sicrhau y darperir gwasanaeth sy’n darparu gwybodaeth a chyngor sy’n gysylltiedig â digartrefedd i bobl ynghyd â chynhorthwy i gael gafael ar gymorth o dan y Bennod hon.

(4)Mae adran 61 yn cyflwyno Atodlen 2 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyster i gael cymorth o dan y Bennod hon.

(5)Mae adran 62 yn gosod dyletswydd ar awdurdod tai lleol i asesu achosion pobl (“ceiswyr”) sy’n gwneud cais i’r awdurdod am lety, neu am gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, pan fo’n ymddangos i’r awdurdod eu bod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd.

(6)Mae adran 63 yn darparu ar gyfer rhoi hysbysiad i geiswyr ynghylch canlyniad yr asesiad.

(7)Mae adran 64 yn rhoi enghreifftiau o’r mathau o ffyrdd y caniateir arfer y dyletswyddau dilynol i sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety ar gael a beth y caniateir ei wneud er mwyn eu harfer; ac mae adran 65 yn egluro beth y mae “cynorthwyo i sicrhau” yn ei olygu.

(8)Mae adrannau 66 i 79 yn nodi’r prif ddyletswyddau sydd ar awdurdodau tai lleol i gynorthwyo ceiswyr, yr amgylchiadau pan fo’r dyletswyddau hynny’n dod i ben a darpariaeth gysylltiedig; y prif ddyletswyddau yw—

(a)dyletswydd i gynorthwyo i atal ceiswyr sydd o dan fygythiad o ddigartrefedd rhag dod yn ddigartref (adran 66);

(b)dyletswydd i sicrhau llety interim ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol (adran 68) (mae adran 70 yn darparu ar gyfer pwy sydd i gael angen blaenoriaethol am lety at ddibenion y Bennod);

(c)dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i geiswyr digartref ei feddiannu (adran 73);

(d)dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fydd y ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben (adran 75).

(9)Mae adran 78 yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau hynny pan gaiff awdurdodau tai lleol roi sylw i ba un a ddaeth ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio wrth benderfynu a yw dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol yn gymwys; mae adran 77 yn darparu ar gyfer ystyr bod yn ddigartref yn fwriadol.

(10)Mae adrannau 80 i 82 yn darparu y caiff awdurdodau tai lleol ddod â’u dyletswydd i geisydd i ben drwy gyfeirio eu hachosion at at awdurdodau eraill yng Nghymru neu Loegr, pan fo gan y ceiswyr gysylltiad lleol ag ardaloedd yr awdurdodau eraill hynny; mae adran 81 yn diffinio ystyr “cysylltiad lleol” at ddibenion y Bennod hon.

(11)Mae adrannau 85 i 89 yn darparu ar gyfer adolygiadau ac apelau.

(12)Mae adrannau 90 i 99 yn gwneud darpariaeth atodol a chyffredinol.

Termau allweddol

54Cymhwyso termau allweddol

Mae adrannau 55 i 59 yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

55Ystyr digartrefedd a’r bygythiad o ddigartrefedd

(1)Mae person yn ddigartref os nad oes unrhyw lety ar gael i’r person ei feddiannu, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, y mae’r person—

(a)â hawl i’w feddiannu yn rhinwedd buddiant ynddo neu yn rhinwedd gorchymyn llys,

(b)â thrwydded datganedig neu oblygedig i’w feddiannu, neu

(c)yn ei feddiannu fel preswylfa yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol cyfreithiol sy’n rhoi i’r person yr hawl i barhau i feddiannu neu’n cyfyngu ar hawl person arall i adennill meddiant.

(2)Mae person yn ddigartref hefyd os oes gan y person lety ond—

(a)nad yw’n gallu cael mynediad iddo, neu

(b)mae’n strwythur, yn gerbyd neu’n gwch symudol, sydd wedi ei ddylunio neu ei addasu i bobl fyw ynddo ac nad oes unrhyw fan lle mae’r person â’r hawl neu’r caniatâd i’w leoli ac hefyd i fyw ynddo.

(3)Ni chaniateir i berson gael ei drin fel person sydd â llety oni bai ei fod yn lety y byddai’n rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu.

(4)Mae person o dan fygythiad o ddigartrefedd os yw’n debygol y bydd y person yn dod yn ddigartref o fewn 56 o ddiwrnodau.

56Ystyr llety sydd ar gael i’w feddiannu

(1)Caniateir i lety gael ei ystyried yn llety sydd ar gael i berson ei feddiannu ond os yw ar gael i’r person hwnnw ei feddiannu ynghyd ag—

(a)unrhyw berson arall sy’n preswylio gyda’r person hwnnw fel arfer fel aelod o’i deulu, neu

(b)unrhyw berson arall y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r person hwnnw.

(2)Dylid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at sicrhau bod llety ar gael i berson ei feddiannau yn unol â hynny.

57A yw’n rhesymol parhau i feddiannu llety

(1)Nid yw’n rhesymol i berson barhau i feddiannu llety os yw’n debygol y bydd yn arwain at fod y person hwnnw, neu aelod o aelwyd y person hwnnw, yn wynebu camdriniaeth.

(2)Yn yr adran hon ystyr “aelod o aelwyd y person” yw—

(a)person sy’n preswylio gydag ef fel arfer fel aelod o’i deulu, neu

(b)unrhyw berson arall y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r person hwnnw.

(3)Wrth benderfynu a fyddai’n rhesymol, neu y byddai wedi bod yn rhesymol, i berson barhau i feddiannu llety—

(a)caiff awdurdod tai lleol roi sylw i’r amgylchiadau cyffredinol presennol mewn perthynas â thai yn ardal yr awdurdod tai lleol y mae’r person wedi gwneud cais iddo am gymorth i sicrhau llety;

(b)rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i pa un a yw’r llety yn fforddiadwy i’r person hwnnw ai peidio.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru bennu’r canlynol drwy orchymyn—

(a)amgylchiadau eraill lle bydd yn cael ei ystyried yn rhesymol neu’n afresymol i berson barhau i feddiannu llety, a

(b)materion eraill i’w hystyried neu eu diystyru wrth benderfynu a fyddai’n rhesymol, neu y byddai wedi bod yn rhesymol, i berson barhau i feddiannu llety.

58Ystyr camdriniaeth a camdriniaeth ddomestig

(1)Ystyr “camdriniaeth” yw trais corfforol, ymddygiad bygythiol neu fygylus ac unrhyw ffurf arall ar gamdriniaeth a all, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, arwain at y perygl o niwed; ac ystyr “camdriniaeth ddomestig” yw camdriniaeth sy’n dod o du person sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr.

(2)Mae person yn gysylltiedig â pherson arall os ydynt—

(a)yn briod â’i gilydd neu wedi bod yn briod â’i gilydd;

(b)yn bartneriaid sifil i’w gilydd neu wedi bod yn bartneriaid sifil i’w gilydd;

(c)yn byw â’i gilydd neu wedi bod yn byw â’i gilydd mewn perthynas deuluol barhaus (pa un ai os ydynt o rywiau gwahanol neu o’r un rhyw);

(d)yn byw neu wedi byw ar yr un aelwyd;

(e)yn berthnasau;

(f)wedi cytuno i briodi ei gilydd (pa un a yw’r cytundeb hwnnw wedi ei derfynu ai peidio);

(g)wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth sifil rhyngddynt (pa un a yw’r cytundeb hwnnw wedi ei derfynu ai peidio);

(h)mewn perthynas bersonol agos â’i gilydd, neu wedi bod mewn perthynas o’r fath, sydd, neu a oedd, wedi parhau am gyfnod sylweddol;

(i)mewn perthynas â phlentyn, y naill a’r llall yn rhiant i’r plentyn neu â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu wedi bod â chyfrifoldeb o’r fath.

(3)Os yw plentyn wedi ei fabwysiadu neu yn dod o fewn is-adran (4), mae dau berson hefyd yn gysylltiedig â’i gilydd at ddibenion y Bennod hon—

(a)os yw un yn rhiant naturiol i’r plentyn neu’n rhiant i riant naturiol o’r fath, a

(b)y person arall yw—

(i)y plentyn, neu

(ii)person sydd wedi dod yn rhiant i’r plentyn yn rhinwedd gorchymyn mabwysiadu, sydd wedi gwneud cais am orchymyn mabwysiadu neu y mae’r plentyn wedi ei leoli gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu ar unrhyw adeg.

(4)Mae plentyn yn dod o fewn yr adran hon—

(a)os yw asiantaeth fabwysiadu, o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, wedi ei hawdurdodi i leoli’r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan adran 19 o’r Ddeddf honno (gosod plentyn â chydsyniad rhiant) neu mae’r plentyn wedi dod yn destun gorchymyn o dan adran 21 o’r Ddeddf honno (gorchmynion lleoli), neu

(b)os yw’r plentyn yn cael ei ryddhau ar gyfer ei fabwysiadu yn rhinwedd gorchymyn a wneir—

(i)yng Nghymru a Lloegr, o dan adran 18 o Ddeddf Mabwysiadu 1976,

(ii)yng Ngogledd Iwerddon, o dan Erthygl 17(1) neu 18(1) o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987, neu

(c)os yw’r plentyn yn destun gorchymyn parhauster yn yr Alban sy’n cynnwys rhoi’r awdurdod i fabwysiadu.

(5)Yn yr adran hon—

  • mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr ystyr a roddir i “parental responsibility” gan adran 3 o Ddeddf Plant 1989;

  • mae i “cytundeb partneriaeth sifil” yr ystyr a roddir i “civil partnership agreement” gan adran 73 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004;

  • ystyr “gorchymyn mabwysiadu” yw gorchymyn mabwysiadu o fewn yr ystyr a roddir i “adoption order” gan adran 72(1) o Ddeddf Mabwysiadu 1976 neu adran 46(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

  • ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas â pherson, yw rhiant, taid (tad-cu), nain (mam-gu), plentyn, ŵyr neu wyres, brawd, hanner brawd, chwaer, hanner chwaer, ewythr, modryb, nai neu nith y person (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno neu sydd wedi bod yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus).

59Addasrwydd llety

(1)Wrth benderfynu a yw llety’n addas ar gyfer person, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i’r deddfiadau canlynol—

(a)Rhan 9 o Ddeddf Tai 1985 (clirio slymiau);

(b)Rhan 10 o Ddeddf Tai 1985 (gorlenwi);

(c)Rhan 1 o Ddeddf Tai 2004 (cyflwr tai);

(d)Rhan 2 o Ddeddf Tai 2004 (trwyddedu tai amlfeddiannaeth);

(e)Rhan 3 o Ddeddf Tai 2004 (trwyddedu dethol ar gyfer llety preswyl arall);

(f)Rhan 4 o Ddeddf Tai 2004 (darpariaethau rheoli atodol mewn perthynas â llety preswyl);

(g)Rhan 1 o’r Ddeddf hon (rheoleiddio tai rhentu preifat).

(2)Wrth benderfynu a yw llety’n addas ar gyfer person, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i pa un a yw’r llety yn fforddiadwy i’r person hwnnw ai peidio.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru bennu’r canlynol drwy orchymyn—

(a)amgylchiadau lle bo llety i’w ystyried yn addas ar gyfer person, a lle na fo i’w ystyried felly, a

(b)materion i’w hystyried neu i’w diystyru wrth benderfynu a yw llety yn addas ar gyfer person.

Gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i gael gafael ar gymorth

60Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i gael gafael ar gymorth

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol sicrhau y darperir gwasanaeth, heb godi tâl amdano, sy’n cynnig y canlynol i bobl yn ei ardal, neu bobl sydd â chysylltiad lleol â’i ardal—

(a)gwybodaeth a chyngor yn ymwneud ag atal digartrefedd, sicrhau llety pan fo pobl yn ddigartref, cael gafael ar unrhyw gymorth arall sydd ar gael ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref, a

(b)cynhorthwy i gael gafael ar gymorth o dan y Bennod hon neu unrhyw gymorth arall ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref.

(2)Mewn perthynas ag is-adran (1)(a), rhaid i’r gwasanaeth gynnwys, yn benodol, gyhoeddi gwybodaeth a chyngor am y materion canlynol—

(a)y system y darperir ar ei chyfer gan y Bennod hon a sut y mae’r system yn gweithredu yn ardal yr awdurdod;

(b)a oes unrhyw gymorth arall ar gael yn ardal yr awdurdod ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref (pa un a yw’r person o dan fygythiad o ddigartrefedd o fewn ystyr y Bennod hon ai peidio);

(c)sut i gael gafael ar y cymorth sydd ar gael.

(3)Mewn perthynas ag is-adran (1)(b), rhaid i’r gwasanaeth gynnwys, yn Benodol, gynhorthwy i gael gafael ar gymorth i atal person rhag dod yn ddigartref sydd ar gael pa un a yw’r person o dan fygythiad o ddigartrefedd o fewn ystyr y bennod hon ai peidio.

(4)Rhaid i’r awdurdod tai lleol, yn benodol drwy weithio gydag awdurdodau cyhoeddus eraill, cyrff gwirfoddol a phersonau eraill, sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddylunio i ddiwallu anghenion grwpiau sy’n wynebu perygl arbennig o ddigartrefedd, gan gynnwys yn benodol—

(a)pobl sy’n gadael y carchar neu lety cadw ieuenctid,

(b)pobl ifanc sy’n gadael gofal,

(c)pobl sy’n gadael lluoedd arfog rheolaidd y Goron,

(d)pobl sy’n gadael yr ysbyty ar ôl triniaeth feddygol am anhwylder meddyliol fel claf preswyl, ac

(e)pobl sy’n cael gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned.

(5)Caiff dau neu ragor o awdurdodau tai lleol sicrhau ar y cyd y darperir gwasanaeth o dan yr adran hon ar gyfer eu hardaloedd; a phan fônt yn gwneud hynny—

(a)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at awdurdod tai lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdodau yn gweithredu ar y cyd, a

(b)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at ardal awdurdod tai lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal gyfunol.

(6)Caniateir i’r gwasanaeth sy’n ofynnol o dan yr adran hon gael ei integreiddio â’r gwasanaeth sy’n ofynnol o dan adran 17 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Cymhwystra

61Cymhwystra am gymorth o dan y Bennod hon

Mae Atodlen 2 yn cael effaith at ddibenion penderfynu a yw ceisydd yn gymwys i gael cymorth o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon.

Ceisiadau am gymorth ac asesiad

62Dyletswydd i asesu

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol gynnal asesiad o achos person—

(a)os yw’r person wedi gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety,

(b)os yw’n ymddangos i’r awdurdod y gallai’r person fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, ac

(c)os nad yw is-adran (2) yn gymwys i’r person.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r person wedi ei asesu gan awdurdod tai lleol o dan yr adran hon ar achlysur blaenorol a bod yr awdurdod yn fodlon—

(a)nad yw amgylchiadau’r person wedi newid yn sylweddol ers i’r asesiad gael ei gynnal, a

(b)nad oes unrhyw wybodaeth newydd sy’n cael effaith sylweddol ar yr asesiad hwnnw.

(3)Yn y Bennod hon, ystyr “ceisydd” yw person y mae’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys iddo.

(4)Rhaid i’r awdurdod asesu pa un a yw’r ceisydd yn gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon ai peidio.

(5)Os yw’r ceisydd yn gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon, rhaid i’r asesiad gynnwys asesiad o’r canlynol—

(a)yr amgylchiadau sydd wedi achosi i’r ceisydd fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd;

(b)anghenion tai y ceisydd ynghyd ag unrhyw berson y mae’r ceisydd yn byw gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gydag ef;

(c)y gefnogaeth y mae ei hangen ar y ceisydd ynghyd ag unrhyw berson y mae’r ceisydd yn byw gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gydag ef i gadw llety sydd ar gael neu a allai ddod ar gael;

(d)pa un a oes unrhyw ddyletswydd ar yr awdurdod i’r ceisydd ai peidio o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon.

(6)Wrth gynnal asesiad, rhaid i’r awdurdod tai lleol—

(a)ceisio canfod pa ganlyniad y mae’r ceisydd yn dymuno ei gyflawni drwy gymorth yr awdurdod, a

(b)asesu pa un a allai arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Bennod hon gyfrannu at gyflawni’r amcan hwnnw.

(7)Caiff awdurdod tai lleol gynnal ei asesiad o’r materion a grybwyllir yn is-adrannau (5) a (6) cyn iddo benderfynu bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon.

(8)Rhaid i awdurdod tai lleol adolygu ei asesiad yn ystod y cyfnod y mae’r awdurdod yn ystyried bod dyletswydd arno i’r ceisydd o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon neu y gallai dyletswydd fod arno.

(9)Rhaid i awdurdod tai lleol adolygu ei asesiad yn y ddau achos a ganlyn—

  • Achos 1 - pan fo ceisydd wedi ei hysbysu o dan adran 63 bod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66 (dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref) a’i bod yn ymddangos i’r awdurdod wedi hynny bod y ddyletswydd o dan adran 66 wedi dod i ben neu’n debygol o ddod i ben gan fod y ceisydd yn ddigartref;

  • Achos 2 - pan fo ceisydd wedi ei hysbysu o dan adran 63 bod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref) a’i bod yn ymddangos i’r awdurdod wedi hynny bod y ddyletswydd yn adran 73 wedi dod i ben neu’n debygol o ddod i ben o dan amgylchiadau pan y gallai dyletswydd fod yn ddyledus i’r ceisydd o dan adran 75 (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben).

(10)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (5)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol asesu a fyddai dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 75 ai peidio oni bai a hyd nes y bo’n adolygu ei asesiad yn unol ag is-adran (9) o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn achos 2 o’r is-adran honno; ond caniateir iddo wneud felly cyn hynny.

(11)Nid yw is-adrannau (9) a (10) yn effeithio ar gyffredinolrwydd is-adran (8).

63Hysbysu am ganlyniad asesiad

(1)Rhaid i’r awdurdod tai lleol hysbysu’r ceisydd am ganlyniad ei asesiad (neu unrhyw adolygiad o’i asesiad) ac, i’r graddau y bo unrhyw fater yn cael ei benderfynu yn groes i fuddiannau’r ceisydd, roi gwybod i’r ceisydd am y rhesymau dros ei benderfyniad.

(2)Os yw’r awdurdod yn penderfynu bod dyletswydd arno mewn perthynas â’r ceisydd o dan adran 75, ond na fyddai wedi gwneud hynny heblaw ei fod wedi rhoi sylw i berson cyfyngedig, rhaid i’r hysbysiad o dan is-adran (1) hefyd—

(a)rhoi gwybod i’r ceisydd ei fod wedi gwneud y penderfyniad ar y sail honno,

(b)cynnwys enw’r person cyfyngedig,

(c)egluro pam fod y person yn berson cyfyngedig, a

(d)egluro effaith adran 76(5).

(3)Os yw’r awdurdod wedi hysbysu awdurdod tai lleol arall, neu’n bwriadu gwneud hynny, o dan adran 80 (atgyfeirio achosion), rhaid iddo hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad hwnnw ar yr un pryd a rhoi gwybod iddo am y rhesymau dros hynny.

(4)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) neu (3) hefyd—

(a)rhoi gwybod i’r ceisydd am ei hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad a’r cyfnod amser y mae’n rhaid cyflwyno cais o’r fath ynddo (gweler adran 85), a

(b)cael ei roi ar ffurf ysgrifenedig ac, os nad yw’n dod i law, gael ei drin fel pe bai wedi ei roi os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y ceisydd neu ar ran y ceisydd.

(5)Yn y Bennod hon, ystyr “person cyfyngedig” yw person—

(a)nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon,

(b)sy’n destun rheolaeth fewnfudo o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, ac

(c)sydd naill ai—

(i)â dim hawl i ddod i’r Deyrnas Unedig neu i aros yno, neu

(ii)â’r hawl i ddod i’r Deyrnas Unedig neu i aros yno yn amodol ar y ffaith ei fod yn ei gynnal ac yn ei letya ei hun, ynghyd ag unrhyw ddibynyddion, heb ddefnyddio cronfeydd cyhoeddus.

Dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr

64Sut i sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety ar gael

(1)Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r modd y caiff awdurdod tai lleol sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)drwy drefnu i berson ac eithrio’r awdurdod ddarparu rhywbeth;

(b)drwy ddarparu rhywbeth ei hun;

(c)drwy ddarparu rhywbeth, neu drefnu i rywbeth gael ei ddarparu, i berson ac eithrio’r ceisydd.

(2)Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r hyn y caniateir ei ddarparu neu ei drefnu er mwyn sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)cyfryngu;

(b)taliadau ar ffurf grant neu fenthyciad;

(c)gwarantau y bydd taliadau yn cael eu gwneud;

(d)cefnogaeth i reoli dyled, ôl-ddyledion morgais neu ôl-ddyledion rhent;

(e)mesurau diogelwch i geiswyr sydd mewn perygl o wynebu camdriniaeth;

(f)eiriolaeth neu gynrychiolaeth arall;

(g)llety;

(h)gwybodaeth a chyngor;

(i)gwasanaethau, nwyddau neu gyfleusterau eraill.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau tai lleol mewn perthynas â sut y gallant hwy sicrhau neu helpu i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i geisydd ei feddiannu.

65Ystyr cynorthwyo i sicrhau

Pan fo’n ofynnol o dan y Bennod hon i awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau (yn hytrach na “sicrhau”) bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)mae’n ofynnol i’r awdurdod gymryd camau rhesymol i gynorthwyo, gan roi sylw (ymysg pethau eraill) i’r angen i wneud y defnydd gorau o adnoddau’r awdurdod;

(b)nid yw’n ofynnol i’r awdurdod sicrhau cynnig o lety o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (dyrannu tai);

(c)nid yw’n ofynnol i’r awdurdod ddarparu llety fel arall.

66Dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau nad yw llety addas yn peidio â bod ar gael i geisydd ei feddiannu os yw’r awdurdod yn fodlon bod y ceisydd—

(a)o dan fygythiad o ddigartrefedd, a

(b)yn gymwys i gael cymorth.

(2)Nid yw is-adran (1) yn effeithio ar unrhyw un neu ragor o hawliau’r awdurdod, pa un ai yn rhinwedd contract, deddfiad neu reolaeth cyfraith, i sicrhau meddiant gwag o unrhyw lety.

67Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 66 yn dod i ben

(1)Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 66 yn dod i ben o dan unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), (3) neu (4), os yw’r ceisydd wedi cael ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref.

(3)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon (pa un ai o ganlyniad i’r camau y mae wedi eu cymryd ai peidio)—

(a)nad yw’r ceisydd bellach o dan fygythiad o ddigartrefedd, a

(b)bod llety addas yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(4)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y ceisydd, ar ôl cael ei hysbysu yn ysgrifenedig am ganlyniadau posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod cynnig o lety gan unrhyw berson y mae’r awdurdod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd, a

(b)bod yr awdurdod yn fodlon bod y llety a gynigir yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(5)Mae’r cyfnod o 6 mis a grybwyllir yn is-adrannau (3)(b) a (4)(b) yn dechrau ar y diwrnod yr anfonir yr hysbysiad o dan adran 84 neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.

(6)Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 66 yn dod i ben.

68Dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol

(1)Rhaid i’r awdurdod tai lleol sicrhau bod llety addas ar gael i’w feddiannu gan geisydd y mae is-adran (2) neu (3) yn gymwys iddo hyd nes y daw’r ddyletswydd i ben yn unol ag adran 69.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i geisydd y mae gan yr awdurdod reswm i gredu y gallai fod—

(a)yn ddigartref,

(b)yn gymwys i gael cymorth, a

(c)ag angen blaenoriaethau am lety,

o dan amgylchiadau pan nad yw’r awdurdod yn fodlon hyd yma bod y ceisydd yn ddigartref, yn gymwys i gael cymorth ac ag angen blaenoriaethol am lety.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i geisydd—

(a)y mae’r awdurdod â rheswm i gredu neu yn fodlon bod ganddo angen blaenoriaethol neu y mae ei achos wedi cael ei atgyfeirio gan awdurdod tai lleol yn Lloegr o dan adran 198(1) o Ddeddf Tai 1996, a

(b)y mae’r ddyletswydd yn adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i ddod â digartrefedd i ben) yn gymwys iddo.

(4)Mae’r ddyletswydd o dan yr adran hon yn codi pa un a oes unrhyw bosibilrwydd o atgyfeirio achos y ceisydd at awdurdod arall ai peidio (gweler adrannau 80 i 82).

69Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 68 yn dod i ben

(1)Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 68 yn dod i ben o dan unrhyw un o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), (3) (yn ddarostyngedig i is-adran (4) a (5)), (7), (8) neu (9) os yw’r ceisydd wedi ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol wedi penderfynu nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 73 a bod y ceisydd wedi ei hysbysu am y penderfyniad hwnnw.

(3)Yn achos ceisydd y mae adran 68(3) yn gymwys iddo, yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol—

(a)wedi penderfynu bod y ddyletswydd i’r ceisydd o dan adran 73 wedi dod i ben a bod dyletswydd yn ddyledus neu nad yw’n ddyledus i’r ceisydd o dan adran 75, a

(b)wedi hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad hwnnw;

ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) a (5).

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol wedi penderfynu nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 75 ar y sail bod yr awdurdod—

(a)yn fodlon y daeth y ceisydd yn ddigartref yn fwriadol o dan yr amgylchiadau a arweiniodd at y cais, neu

(b)wedi sicrhau cynnig o lety o’r math a ddisgrifir yn adran 75(3)(f) yn flaenorol.

(5)Nid yw’r ddyletswydd o dan adran 68 yn dod i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (3) hyd nes y bo’r awdurdod yn fodlon hefyd bod y llety a sicrhawyd ganddo o dan adran 68 wedi bod ar gael i’r ceisydd am gyfnod digonol, gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysir ef nad yw adran 75 yn gymwys, er mwyn caniatáu cyfle rhesymol i’r ceisydd sicrhau llety iddo ei feddiannu.

(6)Nid yw’r cyfnod a grybwyllir yn is-adran (5) yn ddigonol at ddibenion yr is-adran honno os yw’n dod i ben ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod o 56 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr hysbyswyd y ceisydd bod y ddyletswydd yn adran 73 yn gymwys.

(7)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd, ar ôl cael ei hysbysu am ganlyniadau posibl gwrthod, yn gwrthod cynnig o lety a sicrhawyd o dan adran 68 y mae’r awdurdod tai lleol yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd.

(8)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol o lety interim addas y sicrhawyd o dan adran 68 ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

(9)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi rhoi’r gorau yn wirfoddol i feddiannu, fel ei unig neu ei brif gartref llety interim addas y sicrhawyd o dan adran 68 ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

(10)Daw’r ddyletswydd i ben yn unol â’r adran hon hyd yn oed os yw’r ceisydd yn gofyn am adolygiad o unrhyw benderfyniad sydd wedi arwain at ddod â’r ddyletswydd i ben (gweler adran 85).

(11)Caiff yr awdurdod sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu hyd nes y gwneir penderfyniad ynghylch adolygiad.

(12)Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 68 yn dod i ben.

70Angen blaenoriaethol am lety

(1)Mae gan y personau canlynol angen blaenoriaethol am lety at ddibenion y Bennod hon—

(a)menyw feichiog neu berson y mae’n preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddi breswylio gydag ef;

(b)person y mae plentyn dibynnol yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(c)person—

(i)sy’n hyglwyf o ganlyniad i reswm arbennig (er enghraifft: henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol), neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(d)person—

(i)sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd o ganlyniad i argyfwng megis llifogydd, tân neu drychineb arall, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(e)person—

(i)sy’n ddigartref o ganlyniad i wynebu camdriniaeth ddomestig, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio’r sawl sy’n cam-drin) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(f)person—

(i)sy’n 16 neu’n 17 oed pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(g)person—

(i)sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, sy’n wynebu perygl arbennig o gamfanteisio rhywiol neu ariannol, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio camfanteisiwr neu gamfanteisiwr posibl) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(h)person—

(i)sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, a oedd yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu ar unrhyw bryd pan oedd o dan 18 oed, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(i)person—

(i)sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd hynny, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(j)person sydd â chysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod tai lleol ac sy’n hyglwyf o ganlyniad i un o’r rhesymau canlynol—

(i)bod wedi bwrw dedfryd o garchar o fewn ystyr adran 76 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000,

(ii)bod wedi ei remandio mewn carchar neu ei draddodi i garchar gan orchymyn llys, neu

(iii)bod wedi ei remandio i lety cadw ieuenctid o dan adran 91(4) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012,

neu berson y mae person o’r fath yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef.

(2)Yn y Bennod hon—

  • ystyr “yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu” (“looked after, accommodated or fostered”) yw—

    (a)

    yn derbyn gofal gan awdurdod lleol (o fewn ystyr adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 22 o Ddeddf Plant 1989),

    (b)

    yn cael ei letya gan gorff gwirfoddol, neu ar ran corff gwirfoddol,

    (c)

    yn cael ei letya mewn cartref plant preifat,

    (d)

    yn cael ei letya am gyfnod di-dor o dri mis o leiaf—

    (i)

    gan unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol neu Awdurdod Iechyd Arbennig,

    (ii)

    gan grŵp comisiynu clinigol neu Fwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, neu ar eu rhan,

    (iii)

    gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru wrth arfer swyddogaethau addysg, neu ar ran y cyngor,

    (iv)

    gan awdurdod lleol yn Lloegr wrth arfer swyddogaethau addysg, neu ar ei ran,

    (v)

    mewn unrhyw gartref gofal neu ysbyty annibynnol, neu

    (vi)

    mewn unrhyw lety a ddarperir gan un neu ragor o Ymddiriedolaethau’r GIG, neu ar eu rhan, neu gan un neu ragor o Ymddiriedolaethau Sefydledig y GIG, neu ar eu rhan, neu

    (e)

    yn cael ei faethu yn breifat (o fewn ystyr adran 66 o Ddeddf Plant 1989).

(3)Yn is-adran (2)—

  • ystyr “awdurdod lleol yn Lloegr” (“local authority in England”) yw—

    (a)

    cyngor sir yn Lloegr,

    (b)

    cyngor dosbarth ar gyfer ardal yn Lloegr lle nad oes cyngor sir,

    (c)

    cyngor bwrdeistref yn Llundain, neu

    (d)

    Cyngor Cyffredin Dinas Llundain;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • mae i “cartref gofal” yr ystyr a roddir i “care home” yn Neddf Safonau Gofal 2000;

  • ystyr “grŵp comisiynu clinigol” (“clinical commissioning group”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 14D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

  • mae i “swyddogaethau addysg” (“education functions”) yr ystyr a roddir gan adran 597(1) o Ddeddf Addysg 1996;

  • ystyr “ysbyty annibynnol” (“independent hospital”)—

    (a)

    mewn perthynas â Chymru, yw ysbyty annibynnol o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac

    (b)

    mewn perthynas â Lloegr, yw ysbyty, fel y’i diffinnir gan adran 275 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, nad yw’n ysbyty’r gwasanaeth iechyd (“health service hospital”) o fewn yr ystyr a roddir i’r ymadrodd gan yr adran honno.

71Ystyr hyglwyf yn adran 70

(1)Mae person yn hyglwyf o ganlyniad i reswm a grybwyllir ym mharagraff (c) neu (j) o adran 70(1) os, ar ôl rhoi sylw i holl amgylchiadau achos y person—

(a)y byddai’r person yn llai abl i ofalu amdano ei hun (o ganlyniad i’r rheswm hwnnw), pe bai’r person yn dod yn ddigartref ac ar y stryd, na pherson digartref arferol sy’n dod yn ddigartref ac ar y stryd, a

(b)y byddai’r person hwnnw, o ganlyniad, yn dioddef mwy o niwed nag y byddai person digartref arferol yn ei ddioddef;

mae’r is-adran hon yn gymwys pa un a yw’r person y mae ei gais o dan ystyriaeth yn ddigartref ac ar y stryd, neu’n debygol o ddod yn ddigartref ac ar y stryd, ai peidio.

(2)Yn is-adran (1), ystyr “digartref ac ar y stryd” (“street homeless”), mewn perthynas â pherson, yw nad oes llety ar gael i’r person ei feddiannu yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, y mae’r person—

(a)â’r hawl i’w feddiannu yn rhinwedd buddiant ynddo neu yn rhinwedd gorchymyn llys,

(b)â thrwydded ddatganedig neu oblygedig i’w feddiannu, neu

(c)yn ei feddiannu fel preswylfa yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol sy’n rhoi i’r person yr hawl i barhau i feddiannu neu’n cyfyngu ar hawl person arall i adennill meddiant;

ac nid yw adrannau 55 a 56 yn gymwys i’r diffiniad hwn.

72Pŵer i ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau ynghylch angen blaenoriaethol am lety

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy orchymyn—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer cael gwared ar unrhyw amod bod yn rhaid i awdurdod tai lleol fod â rheswm i gredu neu fod yn fodlon bod gan geisydd angen blaenoriaethol am lety cyn i unrhyw bŵer neu ddyletswydd i sicrhau llety o dan y Bennod hon fod yn gymwys, ac mewn cysylltiad â hynny;

(b)diwygio neu hepgor y disgrifiadau o bersonau fel rhai sydd ag angen blaenoriaethol am lety at ddibenion y Bennod hon;

(c)pennu disgrifiadau pellach o bersonau fel rhai sydd ag angen blaenoriaethol am lety at ddibenion y Bennod hon.

(2)Caiff gorchymyn o dan is-adran (1) ddiwygio neu ddiddymu unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau y Rhan hon.

(3)Cyn gwneud gorchymyn o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw gymdeithasau ag sy’n cynrychioli cynghorau siroedd a bwrdeistrefi sirol yng Nghymru, a’r cyfryw bersonau eraill, sy’n briodol yn eu barn hwy.

73Dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, os yw’r awdurdod yn fodlon bod y ceisydd—

(a)yn ddigartref, a

(b)yn gymwys i gael cymorth.

(2)Ond nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys os yw’r awdurdod yn atgyfeirio’r cais at awdurdod tai lleol arall (gweler adran 80).

74Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben

(1)Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 73 yn dod i ben o dan unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adrannau (2), (3), (4), neu (5), os yw’r ceisydd wedi cael ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw diwedd cyfnod o 56 o ddiwrnodau.

(3)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol, cyn diwedd cyfnod o 56 o ddiwrnodau, yn fodlon bod camau rhesymol wedi eu cymryd i gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

(4)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon (pa un ai o ganlyniad i’r camau y mae wedi eu cymryd neu beidio)—

(a)bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, a

(b)bod y llety yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(5)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y ceisydd, ar ôl cael ei hysbysu am ganlyniad posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod cynnig o lety gan unrhyw berson y mae’r awdurdod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd, a

(b)bod yr awdurdod yn fodlon bod y llety a gynigir yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(6)Mae’r cyfnod o 56 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adrannau (2) a (3) yn dechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd o dan adran 63 ac at y diben hwn mae’r ceisydd i gael ei drin fel pe bai wedi ei hysbysu ar y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.

(7)Mae’r cyfnod o 6 mis a grybwyllir yn is-adran (4)(b) a (5)(b) yn dechrau ar y diwrnod y mae’r hysbysiad o dan adran 84 yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.

(8)Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fydd y ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben.

75Dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben

(1)Pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref) yn dod i ben mewn perthynas â cheisydd o dan yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (2) neu (3) o adran 74, rhaid i’r awdurdod tai lleol sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu os yw is-adran (2) neu (3) (o’r adran hon) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r awdurdod tai lleol—

(a)yn fodlon—

(i)nad oes llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, neu

(ii)bod gan y ceisydd lety addas, ond nad yw’n debygol y bydd y llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd yn unol ag adran 84 nad yw adran 73 yn gymwys,

(b)yn fodlon bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth,

(c)yn fodlon bod gan y ceisydd angen blaenoriaethol am lety, ac

(d)os yw’r awdurdod yn rhoi sylw i ba un a yw ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio (gweler adran 77), nad yw’n fodlon y daeth y ceisydd yn ddigartref yn fwriadol o dan yr amgylchiadau a arweiniodd at y cais;

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r awdurdod tai lleol yn rhoi sylw i ba un a yw’r ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio ac yn fodlon—

(a)y daeth y ceisydd yn ddigartref yn fwriadol o dan yr amgylchiadau a arweiniodd at y cais,

(b)mewn perthynas â’r ceisydd—

(i)nad oes llety addas ar gael iddo i’w feddiannu, neu

(ii)bod llety addas gan geisydd, ond nad yw’n debygol y bydd y llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd yn unol ag adran 84 nad yw adran 73 yn gymwys,

(c)bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth,

(d)bod gan y ceisydd angen blaenoriaethol am lety,

(e)bod y ceisydd—

(i)yn fenyw feichiog neu’n berson y mae’n preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddi breswylio gydag ef,

(ii)yn berson y mae plentyn dibynnol yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef,

(iii)yn berson nad oedd wedi cyrraedd 21 oed pan wnaed y cais am gymorth neu’n berson y mae’r cyfryw berson yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef, neu

(iv)yn berson a oedd wedi cyrraedd 21 oed, ond nid 25 oed, pan wnaed y cais am gymorth ac a oedd yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu ar unrhyw bryd pan oedd o dan 18 oed, neu’n berson y mae’r cyfryw berson yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef, a

(f)nad yw’r awdurdod wedi sicrhau cynnig o lety i’r ceisydd o dan yr adran hon yn flaenorol yn dilyn cais blaenorol am gymorth o dan y Bennod hon, pan wnaed y cynnig hwnnw—

(i)ar unrhyw bryd o fewn y cyfnod o 5 mlynedd cyn y diwrnod yr hysbyswyd y ceisydd o dan adran 63 bod dyletswydd iddo o dan yr adran hon, a

(ii)ar y sail bod y ceisydd yn dod o fewn yr is-adran hon.

(4)At ddibenion is-adrannau (2)(a)(ii) a (3)(b)(ii), mae’r ceisydd i’w drin fel pe bai wedi ei hysbysu ar y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.

76Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben

(1)Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 75(1) yn dod i ben o dan unrhyw un o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adrannau (2), , (6) neu (7), os yw’r ceisydd wedi ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd yn derbyn—

(a)cynnig o lety addas o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (dyrannu tai), neu

(b)cynnig o lety addas o dan denantiaeth sicr (gan gynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr).

(3)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd, ar ôl derbyn hysbysiad ysgrifenedig am ganlyniadau posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod—

(a)cynnig o lety interim addas o dan adran 75,

(b)cynnig sector rhentu preifat, neu

(c)cynnig o lety o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996,

y mae’r awdurdod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd.

(4)At ddibenion yr adran hon mae cynnig yn gynnig sector rhentu preifat—

(a)os yw’n gynnig o denantiaeth fyrddaliol sicr gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw lety sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu,

(b)os yw’n cael ei wneud, gyda chymeradwyaeth yr awdurdod, yn unol â threfniadau a wneir rhwng yr awdurdod a’r landlord gyda’r nod o ddod â dyletswydd yr awdurdod o dan adran 75 i ben, ac

(c)mae’r denantiaeth sy’n cael ei chynnig yn denantiaeth cyfnod penodedig am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(5)Mewn achos cyfyngedig, rhaid i’r awdurdod tai lleol, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ddwyn ei ddyletswydd i ben drwy sicrhau cynnig sector rhentu preifat; at y diben hwn, ystyr “achos cyfyngedig” yw achos pan na fyddai awdurdod tai lleol yn fodlon fel a grybwyllir yn adran 75(1) heb roi sylw i berson cyfyngedig (gweler adran 63(5)).

(6)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol o lety interim addas y sicrhawyd ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)o dan adran 68 ac y parheir i sicrhau ei fod ar gael o dan adran 75, neu

(b)o dan adran 75.

(7)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi rhoi’r gorau yn wirfoddol i feddiannu, fel ei brif neu ei unig gartref, llety interim addas y sicrhawyd ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)o dan adran 68 ac y parheir i sicrhau ei fod ar gael o dan adran 75, neu

(b)o dan adran 75.

(8)Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 75(1) yn dod i ben.

(9)Yn yr adran hon mae i “tenantiaeth tymor penodedig” yr ystyr a roddir gan Ran 1 o Ddeddf Tai 1988.

77Ystyr bod yn ddigartref yn fwriadol

(1)Mae person yn ddigartref yn fwriadol at ddibenion y Bennod hon os yw is-adran (2) neu (4) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r person yn gwneud unrhyw beth neu’n methu â gwneud unrhyw beth yn fwriadol ac o ganlyniad i hynny mae’r person yn rhoi’r gorau i feddiannu llety sydd ar gael i’r person ei feddiannu ac y byddai wedi bod yn rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu.

(3)At ddibenion is-adran (2) ni chaniateir trin gweithred ddidwyll neu anwaith didwyll ar ran person nad oedd yn ymwybodol o unrhyw ffaith berthnasol fel gweithred fwriadol neu anwaith bwriadol.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r person yn ymrwymo i gytundeb sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person roi’r gorau i feddiannu llety y byddai wedi bod yn rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu, a

(b)diben y cytundeb yw galluogi’r person i gymhwyso ar gyfer yr hawl i gymorth o dan y Bennod hon,

ac nad oes rheswm da arall pam y mae’r person yn ddigartref.

78Penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu categori neu gategorïau o geiswyr at ddibenion yr adran hon.

(2)Ni chaiff awdurdod tai lleol roi sylw i ba un a yw ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio at ddibenion adrannau 68 a 75 oni bai bod—

(a)y ceisydd yn dod o fewn categori a bennir o dan is-adran (1) y mae’r awdurdod wedi penderfynu, mewn perthynas â'r categori hwnnw, rhoi sylw i ba un a yw ceiswyr o fewn y categori hwnnw wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio, a

(b)yr awdurdod wedi cyhoeddi hysbysiad am ei benderfyniad o dan baragraff (a) sy’n pennu’r categori hwnnw.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol wedi cyhoeddi hysbysiad o dan is-adran (2) oni bai bod yr awdurdod wedi—

(a)penderfynu rhoi’r gorau i roi sylw i ba un a yw ceiswyr sy’n dod o fewn y categori a bennir yn yr hysbysiad wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio, a

(b)wedi cyhoeddi hysbysiad am ei benderfyniad sy’n pennu’r categori.

(4)At ddibenion adran 68 a 75, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i ba un a yw ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio os yw’r ceisydd yn dod o fewn categori a bennir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd gan yr awdurdod o dan is-adran (2).

79Amgylchiadau pellach pan fo’r dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr yn dod i ben

(1)Mae’r dyletswyddau yn adrannau 66, 68, 73 a 75 yn dod i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), (3), (4) neu (5), os yw’r ceisydd yn cael ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw nad yw’r awdurdod tai lleol yn fodlon bellach bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth.

(3)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod camgymeriad ffeithiol wedi arwain at hysbysu’r ceisydd o dan adran 63 bod y ddyletswydd yn ddyledus i’r ceisydd.

(4)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi tynnu ei gais yn ôl.

(5)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd yn methu â chydweithredu â’r awdurdod mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon fel y maent yn gymwys i’r ceisydd, a hynny mewn modd afresymol.

Atgyfeirio at awdurdod tai lleol arall

80Atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—

(a)awdurdod tai lleol yn ystyried bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio at awdurdod tai lleol arall (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) wedi eu bodloni (gweler is-adran (3)), ac

(b)y byddai’r awdurdod tai lleol, os nad yw’r achos yn cael ei atgyfeirio, yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 73 mewn perthynas â cheisydd sydd mewn angen blaenoriaethol am lety ac yn ddigartref yn anfwriadol (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref).

(2)Caiff yr awdurdod tai lleol hysbysu’r awdurdod arall am ei farn bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni mewn perthynas â’r ceisydd.

(3)Mae’r amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos i awdurdod tai lleol arall (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) wedi eu bodloni—

(a)os nad oes gan y ceisydd nac unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd gysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod y gwneir y cais iddo,

(b)os oes gan y ceisydd neu berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd gysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod arall hwnnw,

(c)os na fydd y ceisydd nac unrhyw berson y gellid disgwyl yn resymol iddo breswylio gyda’r ceisydd yn wynebu’r perygl o camdriniaeth ddomestig yn yr ardal arall honno.

(4)Ond nid yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio a grybwyllir yn is-adran (3) yn cael eu bodloni —

(a)os yw’r ceisydd neu unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd wedi dioddef camdriniaeth (ac eithrio camdriniaeth domestig) yn ardal yr awdurdod arall, a

(b)mae’n debygol y bydd dychweliad y dioddefwr i’r ardal honno yn arwain at ragor o gamdriniaeth o natur debyg yn ei erbyn.

(5)Mae’r cwestiwn o pa un a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio achos wedi eu bodloni i’w penderfynu—

(a)drwy gytundeb rhwng yr awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu, neu

(b)yn niffyg cytundeb, yn unol â’r cyfryw drefniadau—

(i)ag y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo drwy orchymyn, pan fo’r ddau awdurdod yng Nghymru, neu

(ii)ag y caiff Gweinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol eu cyfarwyddo ar y cyd drwy orchymyn, pan fo’r awdurdod sy’n hysbysu yng Nhgymru a’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn Lloegr.

(6)Caiff gorchymyn o dan is-adran (5) gyfarwyddo mai’r trefniadau fydd—

(a)y trefniadau hynny y cytunwyd arnynt gan unrhyw awdurdodau perthnasol neu gymdeithasau o awdurdodau perthnasol, neu

(b)yn niffyg cytundeb o’r fath, y cyfryw drefniadau ag yr ymddengys i Weinidogion Cymru neu, yn achos gorchymyn dan is-adran (5)(b)(ii), i Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol eu bod yn addas, ar ôl ymgynghori â’r cyfryw gymdeithasau sy’n cynrychioli awdurdodau perthnasol, a’r cyfryw bersonau eraill, sy’n briodol yn eu barn hwy.

(7)Yn is-adran (6), ystyr “awdurdod perthnasol” yw awdurdod tai lleol neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol; ac mae’n cynnwys, i’r graddau fod yr is-adran honno yn gymwys i drefniadau dan is-adran (5)(b)(ii), awdurdodau o’r fath yng Nghymru a Lloegr.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru bennu drwy orchymyn yr amgylchiadau eraill hynny pan fo’r amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos at awdurdod lleol arall wedi eu bodloni a phan nad ydynt wedi eu bodloni.

81Cysylltiad lleol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Bennod hon.

(2)Mae gan berson gysylltiad lleol ag ardal awdurdod tai lleol yng Nghymru neu yn Lloegr os oes gan y person gysylltiad â hi—

(a)gan fod y person yn preswylio yno fel arfer, neu wedi gwneud hynny yn y gorffennol, a bod y preswyliad hwnnw o ddewis y person ei hun,

(b)gan fod y person yn cael ei gyflogi yno,

(c)o ganlyniad i gysylltiadau teuluol, neu

(d)o ganlyniad i amgylchiadau neilltuol.

(3)Nid yw preswyliad mewn ardal o ddewis person ei hun os yw’r person, neu berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r person hwnnw, yn dod yn breswyliwr yno gan fod y person yn cael ei gadw o dan awdurdod deddfiad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru bennu drwy orchymyn yr amgylchiadau hynny—

(a)pan nad yw person i gael ei drin fel person a gyflogir mewn ardal, neu

(b)pan nad yw preswyliad mewn ardal i gael ei drin fel preswyliad o ddewis person ei hun.

(5)Mae gan berson gysylltiad lleol ag ardal awdurdod tai lleol yng Nghymru neu yn Lloegr os darparwyd llety i’r person yn yr ardal honno (ar unrhyw adeg) o dan adran 95 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (cefnogaeth i geiswyr lloches).

(6)Ond nid yw is-adran (5) yn gymwys—

(a)i ddarparu llety i berson yn ardal awdurdod tai lleol os darparwyd llety i’r person yn ardal awdurdod tai lleol arall wedi hynny o dan adran 95 o’r Ddeddf honno, neu

(b)i ddarparu llety mewn canolfan letya yn rhinwedd adran 22 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002 (defnyddio canolfannau lletya ar gyfer cefnogaeth adran 95).

82Dyletswyddau i geisydd y mae ei achos yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu’n cael ei atgyfeirio

(1)Pan fo awdurdod tai lleol yn hysbysu ceisydd yn unol ag adran 84 ei fod yn bwriadu hysbysu awdurdod tai lleol arall yng Nghymru neu Loegr ei fod o’r farn bod yr amodau wedi eu diwallu ar gyfer atgyfeirio achos y ceisydd at yr awdurdod arall hwnnw, neu ei fod wedi gwneud hynny—

(a)mae’n peidio â bod yn ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd o dan adran 68 (dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol), aa

(b)nid yw’n ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd o dan adran 73 ( dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref),

ond rhaid iddo sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu hyd nes i’r ceisydd gael ei hysbysu am y penderfyniad ynghylch pa un a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos wedi eu bodloni.

(2)Pan fydd penderfyniad wedi ei wneud ynghylch pa un a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni, rhaid i’r awdurdod sy’n hysbysu roi gwybod i’r ceisydd yn unol ag adran 84.

(3)Os penderfynir nad yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio yn cael eu bodloni, mae’r awdurdod sy’n hysbysu yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref).

(4)Os penderfynir bod yr amodau hynny wedi eu bodloni a bod yr awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn awdurdod yng Nghymru, mae’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref); o ran y ddarpariaeth ar gyfer achosion pan benderfynir bod yr amodau hynny yn cael eu bodloni a bod yr awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn awdurdod yn Lloegr, gweler adran 201A o Ddeddf Tai 1996 (achosion a atgyfeirir gan awdurdod tai lleol yng Nghymru).

(5)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn dod i ben fel y darperir ar ei gyfer yn yr is-adran honno hyd yn oed os yw’r ceisydd yn gofyn am adolygiad o benderfyniad yr awdurdod (gweler adran 85).

(6)Caiff yr awdurdod sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu tra bo’r penderfyniad ar adolygiad yn yr arfaeth.

(7)Os nad yw’r hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi i geisydd o dan yr adran hon yn dod i law’r ceisydd, mae i’w drin fel pe bai wedi ei roi os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y ceisydd neu ar ran y ceisydd.

83Achosion a atgyfeirir gan awdurdod tai lleol yn Lloegr

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol yn Lloegr wedi atgyfeirio cais at awdurdod tai lleol yng Nghymru o dan adran 198(1) o Ddeddf Tai 1996 (atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall).

(2)Os penderfynir bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos yn yr adran honno yn cael eu bodloni mae’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn ddarostyngedig i’r dyletswyddau canlynol mewn perthynas â’r person y mae ei achos yn cael ei atgyfeirio—

(a)adran 68 ( dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol);

(b)adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref);

ar gyfer darpariaeth ynghylch achosion pan benderfynir nad yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio yn cael eu bodloni, gweler adran 200 o Ddeddf Tai 1996 (dyletswyddau i geisydd y mae ei achos yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu’n cael ei atgyfeirio).

(3)O ganlyniad, mae’r cyfeiriadau yn y Bennod hon at geisydd yn cynnwys cyfeiriad at berson y mae’r dyletswyddau a grybwyllir yn is-adran (2) yn ddyledus iddo yn rhinwedd yr adran hon.

Hysbysiad

84Hysbysiad bod dyletswyddau wedi dod i ben

(1)Pan fo awdurdod tai lleol yn penderfynu bod ei ddyletswydd i geisydd o dan adran 66, 68, 73 neu 75 wedi dod i ben (gan gynnwys pan fo’r awdurdod wedi atgyfeirio achos y ceisydd at awdurdod arall neu wedi penderfynu bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio yn cael eu bodloni), rhaid iddo hysbysu’r ceisydd—

(a)nad yw bellach yn ystyried ei fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd berthnasol,

(b)y rhesymau pam ei fod yn ystyried bod y ddyletswydd wedi dod i ben,

(c)am yr hawl i ofyn am adolygiad, a

(d)am y cyfnod amser y mae’n rhaid cyflwyno cais o’r fath ynddo.

(2)Pan fo hysbysiad o dan is-adran (1) yn ymwneud â’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 74(2) neu (3), rhaid iddo gynnwys hysbysiad am y camau a gymerwyd gan yr awdurdod tai lleol i gynorthwyo i sicrhau y byddai llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

(3)Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon fod ar ffurf ysgrifenedig.

(4)Pan nad yw ceisydd yn derbyn hysbysiad, caniateir trin ceisydd fel pe bai wedi ei hysbysu o dan yr adran hon os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y ceisydd neu ar ran y ceisydd.

Hawl i adolygiad ac apêl

85Hawl i ofyn am adolygiad

(1)Mae gan geisydd yr hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniadau canlynol—

(a)penderfyniad awdurdod tai lleol ynghylch chymhwystra’r ceisydd ar gyfer cymorth;

(b)penderfyniad awdurdod tai lleol nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66, 68, 73, neu 75 (dyletswyddau i geiswyr sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd);

(c)penderfyniad awdurdod tai lleol bod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66, 68, 73, neu 75 wedi dod i ben (gan gynnwys pan fo’r awdurdod wedi atgyfeirio achos y ceisydd at awdurdod arall neu wedi penderfynu bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni).

(2)Pan fo’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 73 wedi dod i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 74(2) neu (3), mae gan geisydd yr hawl i ofyn am adolygiad o pa un a gafodd camau rhesymol eu cymryd yn ystod y cyfnod yr oedd y ddyletswydd o dan adran 73 yn ddyledus i gynorthwyo i sicrhau y byddai llety addas ar gael iddo ei feddiannu ai peidio.

(3)Caiff ceisydd y cynigir llety iddo wrth gyflawni unrhyw ddyletswydd o dan y Bennod hon, neu mewn perthynas â hi, ofyn am adolygiad o addasrwydd y llety a gynigir i’r ceisydd (pa un a yw wedi derbyn y cynnig ai peidio).

(4)Nid oes hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad a wnaed mewn adolygiad cynharach.

(5)Rhaid gwneud cais am adolygiad cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau (neu’r cyfryw gyfnod hirach ag y caiff yr awdurdod ei ganiatáu yn ysgrifenedig) gan ddechrau gyda’r diwrnod yr hysbysir y ceisydd am benderfyniad yr awdurdod.

(6)Pan gyflwynir cais iddynt, rhaid i’r awdurdod neu’r awdurdodau o dan sylw adolygu eu penderfyniad.

86Gweithdrefn ar gyfer adolygiad

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch y weithdrefn i’w dilyn mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 85.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol, er enghraifft,—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r penderfyniad ar adolygiad gael ei wneud gan berson ar y lefel briodol nad oedd yn ymwneud â’r penderfyniad gwreiddiol, a

(b)darparu ar gyfer yr amgylchiadau lle bydd y ceisydd â’r hawl i wrandawiad llafar, ac a ganiateir yr hawl i’r ceisydd gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad o’r fath, a chan bwy, a

(c)darparu ar gyfer y cyfnod y mae’n rhaid cynnal yr adolygiad a rhoi hysbysiad ynghylch y penderfyniad ynddo.

(3)Rhaid i’r awdurdod perthnasol, neu yn ôl y digwydd y naill neu’r llall o’r awdurdodau perthnasol, hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad ynghylch yr adolygiad.

(4)Rhaid i’r awdurdod hefyd hysbysu’r ceisydd am y rhesymau dros y penderfyniad, os yw’r penderfyniad—

(a)yn cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol ar unrhyw fater yn groes i fuddiannau’r ceisydd, neu

(b)yn cadarnhau y cafodd camau rhesymol eu cymryd.

(5)Pa fodd bynnag, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd am ei hawl i apelio i’r llys sirol ar bwynt cyfreithiol, ac am y cyfnod y mae’n rhaid cyflwyno apêl o’r fath ynddo (gweler adran 88).

(6)Ni chaniateir trin hysbysiad am y penderfyniad fel un sydd wedi ei roi oni chydymffurfir ag is-adran (5), a phan fo hynny’n gymwys is-adran (4), a hyd nes y gwneir hynny.

(7)Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi i berson o dan yr adran hon gael ei roi yn ysgrifenedig ac, os nad yw’n dod i law’r person hwnnw, gael ei drin fel pe bai wedi ei roi os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y person neu ar ran y person.

87Effaith penderfyniad mewn adolygiad neu apêl na chafodd camau rhesymol eu cymryd

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan benderfynir mewn adolygiad o dan adran 85(2) neu mewn apêl yn erbyn penderfyniad o dan yr adran honno na chafodd camau rhesymol eu cymryd.

(2)Mae’r ddyletswydd yn adran 73 yn gymwys i’r ceisydd eto, gyda’r addasiad bod y cyfnod o 56 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adran (2) o adran 74 i’w ddehongli fel bod y cyfnod hwnnw’n dechrau ar y dyddiad y mae’r awdurdod yn hysbysu’r ceisydd am ei benderfyniad mewn adolygiad o dan adran 85(2) neu, mewn apêl, y cyfryw ddyddiad ag y caiff y llys ei orchymyn.

88Hawl i apelio i lys sirol ar bwynt cyfreithiol

(1)Caiff ceisydd sydd wedi gofyn am adolygiad o dan adran 85 apelio i’r llys sirol ar unrhyw bwynt cyfreithiol sy’n codi o’r penderfyniad neu, yn ôl y digwydd, y penderfyniad gwreiddiol neu gwestiwn ynghylch a gymerwyd pob cam rhesymol—

(a)os yw’r ceisydd yn anfodlon â’r penderfyniad yn yr adolygiad, neu

(b)os nad yw’r ceisydd yn cael ei hysbysu am y penderfyniad yn yr adolygiad o fewn y cyfnod a ragnodir o dan adran 86.

(2)Rhaid cyflwyno apêl o fewn 21 o ddiwrnodau i hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad neu, yn ôl y digwydd, i’r diwrnod y dylai’r ceisydd fod wedi cael ei hysbysu am benderfyniad mewn adolygiad.

(3)Caiff y llys ganiatáu cyflwyno apêl ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir gan is-adran (2), ond dim ond os yw’n fodlon—

(a)pan ofynnir am ganiatâd cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da pam nad yw’r ceisydd yn gallu cyflwyno’r apêl mewn pryd, neu

(b)pan ofynnir am ganiatâd ar ôl y cyfnod hwnnw, bod rheswm da dros fethiant y ceisydd i gyflwyno’r apêl mewn pryd ac am unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd.

(4)Mewn apêl caiff y llys wneud y cyfryw orchymyn i gadarnhau, i ddiddymu neu i amrywio’r penderfyniad ag y gwêl yn dda.

(5)Pan oedd yr awdurdod o dan ddyletswydd o dan adran 68, 75 neu 82 i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, caiff sicrhau bod llety addas ar gael yn y fath fodd—

(a)yn ystod y cyfnod ar gyfer apelio o dan yr adran hon yn erbyn penderfyniad yr awdurdod, a

(b)os cyflwynir apêl, hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr apêl (ac unrhyw apêl bellach).

89Apelau yn erbyn gwrthodiad i letya wrth aros am apêl

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gan geisydd yr hawl i apelio i’r llys sirol o dan adran 88.

(2)Caiff ceisydd apelio i’r llys sirol yn erbyn penderfyniad yr awdurdod—

(a)i beidio ag arfer ei bŵer o dan adran 88(5) (“y pŵer adran 88(5)”) yn achos y ceisydd,

(b)i arfer y pŵer hwnnw am gyfnod cyfyngedig sy’n dod i ben cyn penderfyniad terfynol y llys sirol ynghylch apêl y ceisydd o dan adran 88(1) (“y brif apêl”), neu

(c)i roi’r gorau i arfer y pŵer hwnnw cyn y penderfyniad terfynol.

(3)Ni chaniateir cyflwyno apêl o dan yr adran hon wedi i’r llys sirol wneud ei benderfyniad terfynol ar y brif apêl.

(4)Mewn apêl o dan yr adran hon—

(a)caiff y llys orchymyn yr awdurdod i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu hyd nes y penderfynir ar yr apêl (neu hyd y cyfryw amser cynharach ag y caiff y llys ei bennu), a

(b)rhaid i’r llys gadarnhau neu ddiddymu’r penderfyniad y cyflwynwyd apêl yn ei erbyn.

(5)Wrth ystyried pa un ai i gadarnhau neu i ddiddymu’r penderfyniad rhaid i’r llys gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysa’r Uchel Lys mewn cais am adolygiad barnwrol.

(6)Os diddyma’r llys y penderfyniad caiff orchymyn yr awdurdod i arfer y pŵer adran 88(5) yn achos y ceisydd am y cyfryw gyfnod ag y ceir ei bennu yn y gorchymyn.

(7)Yn achos gorchymyn o dan is-adran (6)—

(a)caniateir gwneud gorchymyn dim ond os yw’r llys yn fodlon y byddai methu ag arfer y pŵer adran 88(5) yn unol â’r gorchymyn yn rhagfarnu yn sylweddol allu’r ceisydd i fwrw ymlaen â’r brif apêl;

(b)ni chaiff gorchymyn bennu unrhyw gyfnod sy’n dod i ben ar ôl i’r llys sirol wneud ei benderfyniad terfynol ar y brif apêl.

Darpariaethau atodol

90Ffioedd

Caiff awdurdod tai lleol ei gwneud yn ofynnol i berson y mae’n arfer ei swyddogaethau mewn perthynas ag ef o dan y Bennod hon—

(a)talu ffioedd rhesymol a benderfynir gan yr awdurdod mewn perthynas â llety y mae’n ei sicrhau i’r person ei feddiannu (naill ai drwy sicrhau ei fod ar gael ei hun neu fel arall), neu

(b)talu swm rhesymol a benderfynir gan yr awdurdod mewn perthynas â symiau sy’n daladwy ganddo ar gyfer llety y mae person arall yn sicrhau ei fod ar gael.

91Lleoli y tu allan i’r ardal

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu yn ei ardal, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

(2)Os yw’r awdurdod yn sicrhau bod llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu y tu allan i’w ardal yng Nghymru neu yn Lloegr, rhaid iddo roi hysbysiad i’r awdurdod tai lleol (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) y mae’r llety wedi ei leoli yn ei ardal.

(3)Rhaid i’r hysbysiad nodi—

(a)enw’r ceisydd,

(b)nifer y personau eraill sy’n preswylio fel arfer gyda’r ceisydd fel aelod o’i deulu neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt breswylio gyda’r ceisydd, a disgrifiad o’r personau hynny,

(c)cyfeiriad y llety,

(d)y dyddiad y daeth y llety ar gael i’r ceisydd, ac

(e)pa swyddogaeth o dan y Bennod hon yr oedd yr awdurdod yn ei chyflawni wrth sicrhau bod y llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

(4)Rhaid i’r hysbysiad fod ar ffurf ysgrifenedig, a rhaid ei roi cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r diwrnod y daeth y llety ar gael i’r ceisydd.

92Llety interim: trefniadau â landlord preifat

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol, wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan adran 68, 82 neu 88(5) (llety interim), yn gwneud trefniadau â landlord preifat i ddarparu llety.

(2)Ni all tenantiaeth a roddir i’r ceisydd o dan y trefniadau fod yn denantiaeth sicr cyn diwedd y cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar—

(a)y dyddiad yr hysbyswyd y ceisydd am benderfyniad yr awdurdod o dan adran 63(1) neu 80(5), neu

(b)os oes adolygiad o’r penderfyniad hwnnw o dan adran 85 neu apêl i’r llys o dan adran 88, y dyddiad yr hysbysir y ceisydd am y penderfyniad mewn adolygiad neu’r dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl,

oni bai bod y tenant, cyn neu yn ystod y cyfnod hwnnw, yn cael ei hysbysu gan y landlord (neu yn achos landlordiaid ar y cyd, gan o leiaf un ohonynt) bod y denantiaeth i gael ei hystyried yn denantiaeth fyrddaliol sicr neu’n denantiaeth sicr heblaw tenantiaeth fyrddaliol sicr.

93Gwarchod eiddo

(1)Pan fo awdurdod tai lleol wedi dod yn ddarostyngedig i ddyletswydd mewn perthynas â cheisydd fel a ddisgrifir yn is-adran (2), rhaid iddo gymryd camau rhesymol i atal colli eiddo personol y ceisydd neu i atal neu liniaru niwed iddo os oes gan yr awdurdod reswm i gredu—

(a)bod perygl y gallai’r eiddo gael ei golli neu ei niweidio o ganlyniad i anallu’r ceisydd i’w warchod neu i ymdrin ag ef, a

(b)nad oes unrhyw drefniadau addas eraill wedi eu gwneud neu’n cael eu gwneud.

(2)Y dyletswyddau mewn perthynas â cheisydd yw—

  • adran 66 (dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref) yn achos ceisydd mewn angen blaenoriaethol);

  • adran 68 ( dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol);

  • adran 75 (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben);

  • adran 82 (dyletswyddau i geisydd y mae ei achos yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu’n cael ei atgyfeirio) yn achos ceisydd mewn angen blaenoriaethol.

(3)Pan fo awdurdod tai lleol wedi dod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn is-adran (1), mae’n parhau i fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd honno hyd yn oed os yw’r ddyletswydd mewn perthynas â’r ceisydd fel a ddisgrifir yn is-adran (2) yn dod i ben.

(4)Mae dyletswydd awdurdod tai lleol o dan is-adran (1) yn ddarostyngedig i’r cyfryw amodau ag y mae’n eu hystyried yn briodol yn yr achos neilltuol, a gaiff gynnwys amodau ynghylch—

(a)yr awdurdod yn codi ac yn adennill ffioedd rhesymol am y camau a gymerir, neu

(b)yr awdurdod yn gwaredu, o dan y cyfryw amgylchiadau y gellir eu pennu, eiddo y cymerir camau mewn perthynas ag ef.

(5)Caiff awdurdod tai lleol gymryd unrhyw gamau y mae’n eu hystyried yn rhesymol at ddiben gwarchod eiddo personol ceisydd sy’n gymwys i gael cymorth neu i atal neu liniaru niwed iddo os oes gan yr awdurdod reswm i gredu—

(a)bod perygl o golli’r eiddo, neu niwed i’r eiddo, o ganlyniad i anallu’r ceisydd i’w warchod neu i ymdrin ag ef, a

(b)nad oes unrhyw drefniadau addas eraill wedi eu gwneud neu’n cael eu gwneud.

(6)Mae’r cyfeiriadau yn yr adran hon at eiddo personol y ceisydd yn cynnwys eiddo personol unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd.

94Gwarchod eiddo: darpariaethau atodol

(1)At ddibenion adran 93 caiff yr awdurdod—

(a)mynd, ar bob adeg resymol, i unrhyw fangre sy’n breswylfa arferol i’r ceisydd neu a oedd yn breswylfa arferol i’r ceisydd ddiwethaf, a

(b)ymdrin ag unrhyw eiddo personol gan y ceisydd mewn unrhyw fodd sy’n rhesymol angenrheidiol, yn arbennig drwy ei storio neu drefnu iddo gael ei storio.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu arfer y pŵer o dan is-adran (1)(a), rhaid i’r swyddog y mae’n ei awdurdodi i wneud hynny ddarparu, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfennaeth ddilys yn nodi’r awdurdodiad i wneud hynny.

(3)Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn rhwystro arfer y pŵer o dan is-adran (1)(a) yn cyflawni trosedd a yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(4)Pan fo’r ceisydd yn gofyn i’r awdurdod symud ei eiddo i leoliad penodol a enwebir gan y ceisydd—

(a)caiff yr awdurdod, os ymddengys iddo bod y cais yn un rhesymol, gyflawni ei gyfrifoldebau o dan adran 93 drwy wneud yr hyn y mae’r ceisydd yn gofyn amdano, a

(b)ar ôl gwneud hynny, nid oes ganddo unrhyw ddyletswydd bellach na phŵer pellach i gymryd camau o dan yr adran honno mewn perthynas â’r eiddo hwnnw.

(5)Os gwneir cais o’r fath, rhaid i’r awdurdod hysbysu’r ceisydd cyn cydymffurfio â’r cais am ganlyniadau gwneud hynny.

(6)Os na wneir unrhyw gais o’r fath (neu, os caiff ei wneud, nas gweithredir arno) mae unrhyw ddyletswydd neu bŵer ar ran yr awdurdod i gymryd camau o dan adran 93 yn dod i ben pan fydd o’r farn nad oes unrhyw reswm i gredu bellach bod yna berygl o golli neu niweidio eiddo personol person o ganlyniad i’w anallu i’w warchod neu i ymdrin ag ef.

(7)Ond caniateir cadw mewn storfa unrhyw eiddo sy’n cael ei storio yn rhinwedd y ffaith bod yr awdurdod wedi cymryd y cyfryw gamau ac mae unrhyw amodau y’i cymerwyd i storfa ar eu sail yn parhau i gael effaith, gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol.

(8)Pan fo’r awdurdod—

(a)yn peidio â bod yn ddarostyngedig i ddyletswydd i gymryd camau o dan adran 93 mewn perthynas ag eiddo ceisydd, neu

(b)yn peidio â bod â’r pwerau i gymryd y cyfryw gamau, ar ôl cymryd y cyfryw gamau yn flaenorol,

rhaid iddo hysbysu’r ceisydd am y ffaith honno a’r rheswm dros hynny.

(9)Rhaid rhoi’r hysbysiad i’r ceisydd—

(a)drwy ei drosglwyddo i’r ceisydd, neu

(b)ei adael yng nghyfeiriad hysbys diwethaf y ceisydd, neu ei anfon yno.

(10)Mae’r cyfeiriadau yn yr adran hon at eiddo personol y ceisydd yn cynnwys eiddo personol unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd.

95Cydweithredu

(1)Rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru wneud trefniadau i hybu cydweithredu rhwng swyddogion yr awdurdod sy’n arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol a’r rhai hynny sy’n arfer ei swyddogaethau fel yr awdurdod tai lleol gyda’r nod o gyflawni’r amcanion canlynol yn ei ardal—

(a)atal digartrefedd,

(b)bod llety addas ar gael neu y bydd ar gael ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref,

(c)bod cefnogaeth foddhaol ar gael i bobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref, a

(d)arfer ei swyddogaethau yn effeithiol o dan y Rhan hon.

(2)Os yw awdurdod tai lleol yn gofyn am gydweithrediad person a grybwyllir yn is-adran (5) wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu

(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r person.

(3)Os yw awdurdod tai lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (5) ddarparu gwybodaeth iddo sy’n ofynnol ganddo er mwyn arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu

(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r person.

(4)Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (2) neu (3) roi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r awdurdod tai lleol a wnaeth y cais.

(5)Y personau (pa un a ydynt yng Nghymru neu yn Lloegr) yw—

(a)awdurdod tai lleol;

(b)awdurdod gwasanaethau cymdeithasol;

(c)landlord cymdeithasol cofrestredig;

(d)corfforaeth tref newydd;

(e)darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig;

(f)ymddiriedolaeth gweithredu tai.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (5) drwy orchymyn er mwyn hepgor neu ychwanegu person, neu ddisgrifiad o berson.

(7)Ni chaiff gorchymyn o dan is-adran (6) ychwanegu un neu ragor o Weinidogion y Goron.

(8)Yn yr adran hon—

  • mae i “corfforaeth tref newydd” yr un ystyr a roddir i “new town corporation” gan Rhan 1 o Ddeddf Tai 1985;

  • mae i “darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig” yr un ystyr a roddir i “private registered provider of social housing” gan Rhan 2 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008;

  • mae i “landlord cymdeithasol cofrestredig” yr un ystyr a roddir i “registered social landlord” gan Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996;

  • ystyr “ymddiriedolaeth gweithredu tai” (“housing action trust”) yw ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd dan Rhan 3 o Ddeddf Tai 1988.

96Cydweithredu mewn achosion penodol yn ymwneud â phlant

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gan awdurdod tai lleol reswm i gredu y gallai ceisydd y mae person o dan 18 oed yn preswylio gydag ef fel arfer, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef—

(a)bod yn anghymwys i gael cymorth,

(b)bod yn ddigartref ac nad yw dyletswydd o dan adran 68, 73 neu 75 yn debygol o fod yn gymwys i’r ceisydd, neu

(c)bod o dan fygythiad o ddigartrefedd ac nad yw dyletswydd o dan adran 66 yn debygol o fod yn gymwys i’r ceisydd.

(2)Rhaid i awdurdod tai lleol wneud trefniadau i sicrhau—

(a)bod y ceisydd yn cael ei wahodd i gydsynio i atgyfeirio’r ffeithiau hanfodol am ei achos i’r adran gwasanaethau cymdeithasol, a

(b)os yw’r ceisydd wedi rhoi’r cydsyniad hwnnw, bod yr adran gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei hysbysu am y ffeithiau hynny ynghyd â phenderfyniad dilynol yr awdurdod mewn perthynas â’i gais.

(3)Nid oes unrhyw beth yn is-adran (2) yn effeithio ar unrhyw bŵer ar wahân i’r adran hon i ddatgelu gwybodaeth sy’n ymdrin ag achos y ceisydd i’r adran gwasanaethau cymdeithasol heb gydsyniad y ceisydd.

(4)Rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol wneud trefniadau i sicrhau, pan fo’n penderfynu fel awdurdod tai lleol bod ceisydd yn anghymwys i gael cymorth, wedi dod yn ddigartref yn fwriadol neu wedi dod o dan fygythiad o ddigartrefedd yn fwriadol, fod ei adran dai yn rhoi’r cyfryw gyngor a chynhorthwy i’r adran gwasanaethau cymdeithasol ag y caiff yr adran gwasanaethau cymdeithasol ofyn yn rhesymol amdanynt.

(5)Yn yr adran hon, mewn perthynas â chyngor sir neu fwrdeistref sirol—

  • ystyr “yr adran dai” (“the housing department”) yw’r personau hynny sy’n gyfrifol am arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol;

  • ystyr “yr adran gwasanaethau cymdeithasol” (“the social services department”) yw’r personau hynny sy’n gyfrifol am arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol o dan Ran 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Cyffredinol

97Datganiadau anwir, celu gwybodaeth a methiant i ddatgelu newid mewn amgylchiadau

(1)Mae’n drosedd i berson, gyda’r bwriad o gymell awdurdod tai lleol i gredu mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon bod y person neu berson arall â’r hawl i lety neu gynhorthwy yn unol â darpariaethau’r Bennod hon, neu â’r hawl i lety neu gynhorthwy o ddisgrifiad penodol—

(a)gwneud datganiad sy’n anwir mewn unrhyw fanylyn perthnasol, yn fwriadol neu’n ddi-hid, neu

(b)celu yn fwriadol wybodaeth y mae’r awdurdod wedi ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddo ei rhoi mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau hynny.

(2)Os oes unrhyw newid yn y ffeithiau sy’n berthnasol i’r achos, a hynny cyn i geisydd dderbyn hysbysiad am benderfyniad yr awdurdod tai lleol am y cais, rhaid i’r ceisydd hysbysu’r awdurdod cyn gynted â phosibl.

(3)Rhaid i’r awdurdod egluro i bob ceisydd, mewn iaith arferol, y ddyletswydd a osodir gan is-adran (2) ac effaith is-adran (4).

(4)Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag is-adran (2) ar ôl derbyn yr esboniad sy'n ofynnol gan is-adran (3) yn cyflawni trosedd.

(5)Mewn achos yn erbyn person am drosedd a gyflawnwyd o dan is-adran (4) mae’r ffaith bod gan y person esgus rhesymol am fethu â chydymffurfio yn amddiffyniad.

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

98Canllawiau

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau yn ymwneud â digartrefedd rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â swyddogaethau o dan y Rhan hon ac unrhyw ddeddfiad arall.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)rhoi canllawiau naill ai yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiadau penodedig;

(b)diwygio’r canllawiau drwy roi canllawiau pellach o dan y Rhan hon;

(c)tynnu’r canllawiau yn ôl drwy roi canllawiau pellach o dan y Rhan hon neu drwy hysbysiad.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau neu hysbysiad o dan y Rhan hon.

99Dehongli’r Bennod hon a mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio

Yn y Bennod hon—

  • mae i “angen blaenoriaethol am lety” (“priority need for accommodation”) yr ystyr a roddir gan adran 70;

  • ystyr “awdurdod gwasanaethau cymdeithasol”(“social services authority”)—

    (a)

    mewn perthynas â Chymru, yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol wrth arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, o fewn ystyr adran 119 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a

    (b)

    mewn perthynas â Lloegr, yw awdurdod lleol at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970, fel y’i diffinnir yn adran 1 o’r Ddeddf honno,

    ond mae cyfeiriad at “awdurdod gwasanaethau cymdeithasol” i’w ddehongli fel cyfeiriad at awdurdod gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer ardal yng Nghymru yn unig, oni bai bod y Rhan hon yn darparu’n benodol fel arall;

  • ystyr “awdurdod tai lleol” (“local housing authority”)—

    (a)

    mewn perthynas â Chymru, yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol, a

    (b)

    mewn perthynas â Lloegr, yw cyngor dosbarth, cyngor bwrdeistref yn Llundain, Cyngor Cyffredin Dinas Llundain neu Gyngor Ynysoedd Scilly,

    ond mae cyfeiriad at “awdurdod tai lleol” i’w ddehongli fel cyfeiriad at awdurdod tai lleol ar gyfer ardal yng Nghymru yn unig, oni bai bod y Bennod hon yn darparu yn benodol fel arall;

  • mae i “camdriniaeth” (“abuse”) yr ystyr a roddir gan adran 58;

  • mae i “camdriniaeth ddomestig” (“domestic abuse”) yr ystyr a roddir gan adran 58;

  • mae i “carchar” (“prison”) yr un ystyr ag yn Neddf Carchardai 1952 (gweler adran 53(1) o’r Ddeddf honno);

  • mae i “ceisydd” (“applicant”) yr ystyr a roddir gan adran 62(3) ac adran 83(3);

  • ystyr “corff gwirfoddol” (“voluntary organisation”) yw corff (ac eithrio awdurdod cyhoeddus neu awdurdod lleol) nad yw ei weithgareddau yn cael eu cynnal er mwyn gwneud elw;

  • mae i “cysylltiedig” (“associated”), mewn perthynas â pherson, yr ystyr a roddir gan adran 58;

  • ystyr “cymorth o dan y Bennod hon” (“help under this Chapter”) yw budd unrhyw swyddogaeth o dan adrannau 66, 68, 73, neu 75;

  • mae i “cynorthwyo i sicrhau” (“help to secure”), mewn perthynas â sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’w feddiannu, yr ystyr a roddir gan adran 65;

  • mae i “cysylltiad lleol” (“local connection”) yr ystyr a roddir gan adran 81;

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad (pryd bynnag y’i deddfwyd neu y’i gwnaed) a gynhwysir yn y canlynol, neu mewn offeryn a wnaed o dan y canlynol—

    (a)

    Deddf Seneddol,

    (b)

    Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • mae i “digartref” (“homeless”) yr ystyr a roddir gan adran 55 ac mae “digartrefedd” (“homelessness”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

  • mae i “digartref yn fwriadol” (“intentionally homeless”) yr ystyr a roddir gan adran 77;

  • ystyr “landlord preifat” (“private landlord”) yw landlord nad yw o fewn adran 80(1) o Ddeddf Tai 1985 (yr amod landlord ar gyfer tenantiaethau diogel);

  • ystyr “llety cadw ieuenctid” (“youth detention accommodation”) yw—

    (a)

    cartref plant diogel;

    (b)

    canolfan hyfforddi ddiogel;

    (c)

    sefydliad troseddwyr ifanc;

    (d)

    llety a ddarperir, a gyflenwir ac a gynhelir gan Weinidogion Cymru o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989 at ddiben cyfyngu ar ryddid plant;

    (e)

    llety, neu lety o ddisgrifiad, a bennir am y tro gan orchymyn o dan adran 107(1)(e) o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (llety cadw ieuenctid at ddibenion gorchmynion cadw a hyfforddi);

  • mae i “llety sydd ar gael i’w feddiannu” (“accommodation available for occupation”) yr ystyr a roddir gan adran 56;

  • ystyr “lluoedd arfog rheolaidd y Goron” (“regular armed forces of the Crown”) yw’r lluoedd arfog rheolaidd fel y’u diffinnir gan adran 374 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006;

  • mae i “o dan fygythiad o ddigartrefedd” (“threatened with homelessness”) yr ystyr a roddir gan adran 55(4);

  • mae i “person cyfyngedig” (“restricted person”) yr ystyr a roddir gan adran 63(5);

  • ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru;

  • mae i “rhesymol parhau i feddiannu llety” (“reasonable to continue to occupy accommodation”) yr ystyr a roddir gan adran 57;

  • mae i “tenantiaeth sicr” (“assured tenancy”) a “tenantiaeth fyrddaliol sicr” (“assured shorthold tenancy”) yr ystyr a roddir gan Ran 1 o Ddeddf Tai 1988;

  • mae i “yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu (“looked after, accommodated or fostered”) yr ystyr a roddir gan adran 70(2);

  • ystyr “yn gymwys i gael cymorth” (“eligible for help”) yw nad yw cymorth o dan y Bennod hon wedi ei wahardd gan Atodlen 2.

100Diwygiadau canlyniadol

Mae Rhan 1 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol sy’n berthnasol i’r Rhan hon.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources