Search Legislation

Deddf Tai (Cymru) 2014

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

Dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr

64Sut i sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety ar gael

(1)Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r modd y caiff awdurdod tai lleol sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)drwy drefnu i berson ac eithrio’r awdurdod ddarparu rhywbeth;

(b)drwy ddarparu rhywbeth ei hun;

(c)drwy ddarparu rhywbeth, neu drefnu i rywbeth gael ei ddarparu, i berson ac eithrio’r ceisydd.

(2)Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r hyn y caniateir ei ddarparu neu ei drefnu er mwyn sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)cyfryngu;

(b)taliadau ar ffurf grant neu fenthyciad;

(c)gwarantau y bydd taliadau yn cael eu gwneud;

(d)cefnogaeth i reoli dyled, ôl-ddyledion morgais neu ôl-ddyledion rhent;

(e)mesurau diogelwch i geiswyr sydd mewn perygl o wynebu camdriniaeth;

(f)eiriolaeth neu gynrychiolaeth arall;

(g)llety;

(h)gwybodaeth a chyngor;

(i)gwasanaethau, nwyddau neu gyfleusterau eraill.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau tai lleol mewn perthynas â sut y gallant hwy sicrhau neu helpu i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i geisydd ei feddiannu.

65Ystyr cynorthwyo i sicrhau

Pan fo’n ofynnol o dan y Bennod hon i awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau (yn hytrach na “sicrhau”) bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)mae’n ofynnol i’r awdurdod gymryd camau rhesymol i gynorthwyo, gan roi sylw (ymysg pethau eraill) i’r angen i wneud y defnydd gorau o adnoddau’r awdurdod;

(b)nid yw’n ofynnol i’r awdurdod sicrhau cynnig o lety o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (dyrannu tai);

(c)nid yw’n ofynnol i’r awdurdod ddarparu llety fel arall.

66Dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau nad yw llety addas yn peidio â bod ar gael i geisydd ei feddiannu os yw’r awdurdod yn fodlon bod y ceisydd—

(a)o dan fygythiad o ddigartrefedd, a

(b)yn gymwys i gael cymorth.

(2)Nid yw is-adran (1) yn effeithio ar unrhyw un neu ragor o hawliau’r awdurdod, pa un ai yn rhinwedd contract, deddfiad neu reolaeth cyfraith, i sicrhau meddiant gwag o unrhyw lety.

67Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 66 yn dod i ben

(1)Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 66 yn dod i ben o dan unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), (3) neu (4), os yw’r ceisydd wedi cael ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref.

(3)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon (pa un ai o ganlyniad i’r camau y mae wedi eu cymryd ai peidio)—

(a)nad yw’r ceisydd bellach o dan fygythiad o ddigartrefedd, a

(b)bod llety addas yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(4)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y ceisydd, ar ôl cael ei hysbysu yn ysgrifenedig am ganlyniadau posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod cynnig o lety gan unrhyw berson y mae’r awdurdod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd, a

(b)bod yr awdurdod yn fodlon bod y llety a gynigir yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(5)Mae’r cyfnod o 6 mis a grybwyllir yn is-adrannau (3)(b) a (4)(b) yn dechrau ar y diwrnod yr anfonir yr hysbysiad o dan adran 84 neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.

(6)Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 66 yn dod i ben.

68Dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol

(1)Rhaid i’r awdurdod tai lleol sicrhau bod llety addas ar gael i’w feddiannu gan geisydd y mae is-adran (2) neu (3) yn gymwys iddo hyd nes y daw’r ddyletswydd i ben yn unol ag adran 69.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i geisydd y mae gan yr awdurdod reswm i gredu y gallai fod—

(a)yn ddigartref,

(b)yn gymwys i gael cymorth, a

(c)ag angen blaenoriaethau am lety,

o dan amgylchiadau pan nad yw’r awdurdod yn fodlon hyd yma bod y ceisydd yn ddigartref, yn gymwys i gael cymorth ac ag angen blaenoriaethol am lety.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i geisydd—

(a)y mae’r awdurdod â rheswm i gredu neu yn fodlon bod ganddo angen blaenoriaethol neu y mae ei achos wedi cael ei atgyfeirio gan awdurdod tai lleol yn Lloegr o dan adran 198(1) o Ddeddf Tai 1996, a

(b)y mae’r ddyletswydd yn adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i ddod â digartrefedd i ben) yn gymwys iddo.

(4)Mae’r ddyletswydd o dan yr adran hon yn codi pa un a oes unrhyw bosibilrwydd o atgyfeirio achos y ceisydd at awdurdod arall ai peidio (gweler adrannau 80 i 82).

69Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 68 yn dod i ben

(1)Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 68 yn dod i ben o dan unrhyw un o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), (3) (yn ddarostyngedig i is-adran (4) a (5)), (7), (8) neu (9) os yw’r ceisydd wedi ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol wedi penderfynu nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 73 a bod y ceisydd wedi ei hysbysu am y penderfyniad hwnnw.

(3)Yn achos ceisydd y mae adran 68(3) yn gymwys iddo, yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol—

(a)wedi penderfynu bod y ddyletswydd i’r ceisydd o dan adran 73 wedi dod i ben a bod dyletswydd yn ddyledus neu nad yw’n ddyledus i’r ceisydd o dan adran 75, a

(b)wedi hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad hwnnw;

ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) a (5).

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol wedi penderfynu nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 75 ar y sail bod yr awdurdod—

(a)yn fodlon y daeth y ceisydd yn ddigartref yn fwriadol o dan yr amgylchiadau a arweiniodd at y cais, neu

(b)wedi sicrhau cynnig o lety o’r math a ddisgrifir yn adran 75(3)(f) yn flaenorol.

(5)Nid yw’r ddyletswydd o dan adran 68 yn dod i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (3) hyd nes y bo’r awdurdod yn fodlon hefyd bod y llety a sicrhawyd ganddo o dan adran 68 wedi bod ar gael i’r ceisydd am gyfnod digonol, gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysir ef nad yw adran 75 yn gymwys, er mwyn caniatáu cyfle rhesymol i’r ceisydd sicrhau llety iddo ei feddiannu.

(6)Nid yw’r cyfnod a grybwyllir yn is-adran (5) yn ddigonol at ddibenion yr is-adran honno os yw’n dod i ben ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod o 56 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr hysbyswyd y ceisydd bod y ddyletswydd yn adran 73 yn gymwys.

(7)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd, ar ôl cael ei hysbysu am ganlyniadau posibl gwrthod, yn gwrthod cynnig o lety a sicrhawyd o dan adran 68 y mae’r awdurdod tai lleol yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd.

(8)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol o lety interim addas y sicrhawyd o dan adran 68 ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

(9)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi rhoi’r gorau yn wirfoddol i feddiannu, fel ei unig neu ei brif gartref llety interim addas y sicrhawyd o dan adran 68 ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

(10)Daw’r ddyletswydd i ben yn unol â’r adran hon hyd yn oed os yw’r ceisydd yn gofyn am adolygiad o unrhyw benderfyniad sydd wedi arwain at ddod â’r ddyletswydd i ben (gweler adran 85).

(11)Caiff yr awdurdod sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu hyd nes y gwneir penderfyniad ynghylch adolygiad.

(12)Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 68 yn dod i ben.

70Angen blaenoriaethol am lety

(1)Mae gan y personau canlynol angen blaenoriaethol am lety at ddibenion y Bennod hon—

(a)menyw feichiog neu berson y mae’n preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddi breswylio gydag ef;

(b)person y mae plentyn dibynnol yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(c)person—

(i)sy’n hyglwyf o ganlyniad i reswm arbennig (er enghraifft: henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol), neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(d)person—

(i)sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd o ganlyniad i argyfwng megis llifogydd, tân neu drychineb arall, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(e)person—

(i)sy’n ddigartref o ganlyniad i wynebu camdriniaeth ddomestig, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio’r sawl sy’n cam-drin) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(f)person—

(i)sy’n 16 neu’n 17 oed pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(g)person—

(i)sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, sy’n wynebu perygl arbennig o gamfanteisio rhywiol neu ariannol, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio camfanteisiwr neu gamfanteisiwr posibl) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(h)person—

(i)sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, a oedd yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu ar unrhyw bryd pan oedd o dan 18 oed, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(i)person—

(i)sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd hynny, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(j)person sydd â chysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod tai lleol ac sy’n hyglwyf o ganlyniad i un o’r rhesymau canlynol—

(i)bod wedi bwrw dedfryd o garchar o fewn ystyr adran 76 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000,

(ii)bod wedi ei remandio mewn carchar neu ei draddodi i garchar gan orchymyn llys, neu

(iii)bod wedi ei remandio i lety cadw ieuenctid o dan adran 91(4) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012,

neu berson y mae person o’r fath yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef.

(2)Yn y Bennod hon—

  • ystyr “yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu” (“looked after, accommodated or fostered”) yw—

    (a)

    yn derbyn gofal gan awdurdod lleol (o fewn ystyr adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 22 o Ddeddf Plant 1989),

    (b)

    yn cael ei letya gan gorff gwirfoddol, neu ar ran corff gwirfoddol,

    (c)

    yn cael ei letya mewn cartref plant preifat,

    (d)

    yn cael ei letya am gyfnod di-dor o dri mis o leiaf—

    (i)

    gan unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol neu Awdurdod Iechyd Arbennig,

    (ii)

    gan grŵp comisiynu clinigol neu Fwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, neu ar eu rhan,

    (iii)

    gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru wrth arfer swyddogaethau addysg, neu ar ran y cyngor,

    (iv)

    gan awdurdod lleol yn Lloegr wrth arfer swyddogaethau addysg, neu ar ei ran,

    (v)

    mewn unrhyw gartref gofal neu ysbyty annibynnol, neu

    (vi)

    mewn unrhyw lety a ddarperir gan un neu ragor o Ymddiriedolaethau’r GIG, neu ar eu rhan, neu gan un neu ragor o Ymddiriedolaethau Sefydledig y GIG, neu ar eu rhan, neu

    (e)

    yn cael ei faethu yn breifat (o fewn ystyr adran 66 o Ddeddf Plant 1989).

(3)Yn is-adran (2)—

  • ystyr “awdurdod lleol yn Lloegr” (“local authority in England”) yw—

    (a)

    cyngor sir yn Lloegr,

    (b)

    cyngor dosbarth ar gyfer ardal yn Lloegr lle nad oes cyngor sir,

    (c)

    cyngor bwrdeistref yn Llundain, neu

    (d)

    Cyngor Cyffredin Dinas Llundain;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • mae i “cartref gofal” yr ystyr a roddir i “care home” yn Neddf Safonau Gofal 2000;

  • ystyr “grŵp comisiynu clinigol” (“clinical commissioning group”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 14D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

  • mae i “swyddogaethau addysg” (“education functions”) yr ystyr a roddir gan adran 597(1) o Ddeddf Addysg 1996;

  • ystyr “ysbyty annibynnol” (“independent hospital”)—

    (a)

    mewn perthynas â Chymru, yw ysbyty annibynnol o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac

    (b)

    mewn perthynas â Lloegr, yw ysbyty, fel y’i diffinnir gan adran 275 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, nad yw’n ysbyty’r gwasanaeth iechyd (“health service hospital”) o fewn yr ystyr a roddir i’r ymadrodd gan yr adran honno.

71Ystyr hyglwyf yn adran 70

(1)Mae person yn hyglwyf o ganlyniad i reswm a grybwyllir ym mharagraff (c) neu (j) o adran 70(1) os, ar ôl rhoi sylw i holl amgylchiadau achos y person—

(a)y byddai’r person yn llai abl i ofalu amdano ei hun (o ganlyniad i’r rheswm hwnnw), pe bai’r person yn dod yn ddigartref ac ar y stryd, na pherson digartref arferol sy’n dod yn ddigartref ac ar y stryd, a

(b)y byddai’r person hwnnw, o ganlyniad, yn dioddef mwy o niwed nag y byddai person digartref arferol yn ei ddioddef;

mae’r is-adran hon yn gymwys pa un a yw’r person y mae ei gais o dan ystyriaeth yn ddigartref ac ar y stryd, neu’n debygol o ddod yn ddigartref ac ar y stryd, ai peidio.

(2)Yn is-adran (1), ystyr “digartref ac ar y stryd” (“street homeless”), mewn perthynas â pherson, yw nad oes llety ar gael i’r person ei feddiannu yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, y mae’r person—

(a)â’r hawl i’w feddiannu yn rhinwedd buddiant ynddo neu yn rhinwedd gorchymyn llys,

(b)â thrwydded ddatganedig neu oblygedig i’w feddiannu, neu

(c)yn ei feddiannu fel preswylfa yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol sy’n rhoi i’r person yr hawl i barhau i feddiannu neu’n cyfyngu ar hawl person arall i adennill meddiant;

ac nid yw adrannau 55 a 56 yn gymwys i’r diffiniad hwn.

72Pŵer i ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau ynghylch angen blaenoriaethol am lety

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy orchymyn—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer cael gwared ar unrhyw amod bod yn rhaid i awdurdod tai lleol fod â rheswm i gredu neu fod yn fodlon bod gan geisydd angen blaenoriaethol am lety cyn i unrhyw bŵer neu ddyletswydd i sicrhau llety o dan y Bennod hon fod yn gymwys, ac mewn cysylltiad â hynny;

(b)diwygio neu hepgor y disgrifiadau o bersonau fel rhai sydd ag angen blaenoriaethol am lety at ddibenion y Bennod hon;

(c)pennu disgrifiadau pellach o bersonau fel rhai sydd ag angen blaenoriaethol am lety at ddibenion y Bennod hon.

(2)Caiff gorchymyn o dan is-adran (1) ddiwygio neu ddiddymu unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau y Rhan hon.

(3)Cyn gwneud gorchymyn o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw gymdeithasau ag sy’n cynrychioli cynghorau siroedd a bwrdeistrefi sirol yng Nghymru, a’r cyfryw bersonau eraill, sy’n briodol yn eu barn hwy.

73Dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, os yw’r awdurdod yn fodlon bod y ceisydd—

(a)yn ddigartref, a

(b)yn gymwys i gael cymorth.

(2)Ond nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys os yw’r awdurdod yn atgyfeirio’r cais at awdurdod tai lleol arall (gweler adran 80).

74Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben

(1)Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 73 yn dod i ben o dan unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adrannau (2), (3), (4), neu (5), os yw’r ceisydd wedi cael ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw diwedd cyfnod o 56 o ddiwrnodau.

(3)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol, cyn diwedd cyfnod o 56 o ddiwrnodau, yn fodlon bod camau rhesymol wedi eu cymryd i gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

(4)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon (pa un ai o ganlyniad i’r camau y mae wedi eu cymryd neu beidio)—

(a)bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, a

(b)bod y llety yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(5)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y ceisydd, ar ôl cael ei hysbysu am ganlyniad posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod cynnig o lety gan unrhyw berson y mae’r awdurdod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd, a

(b)bod yr awdurdod yn fodlon bod y llety a gynigir yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(6)Mae’r cyfnod o 56 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adrannau (2) a (3) yn dechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd o dan adran 63 ac at y diben hwn mae’r ceisydd i gael ei drin fel pe bai wedi ei hysbysu ar y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.

(7)Mae’r cyfnod o 6 mis a grybwyllir yn is-adran (4)(b) a (5)(b) yn dechrau ar y diwrnod y mae’r hysbysiad o dan adran 84 yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.

(8)Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fydd y ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben.

75Dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben

(1)Pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref) yn dod i ben mewn perthynas â cheisydd o dan yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (2) neu (3) o adran 74, rhaid i’r awdurdod tai lleol sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu os yw is-adran (2) neu (3) (o’r adran hon) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r awdurdod tai lleol—

(a)yn fodlon—

(i)nad oes llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, neu

(ii)bod gan y ceisydd lety addas, ond nad yw’n debygol y bydd y llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd yn unol ag adran 84 nad yw adran 73 yn gymwys,

(b)yn fodlon bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth,

(c)yn fodlon bod gan y ceisydd angen blaenoriaethol am lety, ac

(d)os yw’r awdurdod yn rhoi sylw i ba un a yw ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio (gweler adran 77), nad yw’n fodlon y daeth y ceisydd yn ddigartref yn fwriadol o dan yr amgylchiadau a arweiniodd at y cais;

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r awdurdod tai lleol yn rhoi sylw i ba un a yw’r ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio ac yn fodlon—

(a)y daeth y ceisydd yn ddigartref yn fwriadol o dan yr amgylchiadau a arweiniodd at y cais,

(b)mewn perthynas â’r ceisydd—

(i)nad oes llety addas ar gael iddo i’w feddiannu, neu

(ii)bod llety addas gan geisydd, ond nad yw’n debygol y bydd y llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd yn unol ag adran 84 nad yw adran 73 yn gymwys,

(c)bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth,

(d)bod gan y ceisydd angen blaenoriaethol am lety,

(e)bod y ceisydd—

(i)yn fenyw feichiog neu’n berson y mae’n preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddi breswylio gydag ef,

(ii)yn berson y mae plentyn dibynnol yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef,

(iii)yn berson nad oedd wedi cyrraedd 21 oed pan wnaed y cais am gymorth neu’n berson y mae’r cyfryw berson yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef, neu

(iv)yn berson a oedd wedi cyrraedd 21 oed, ond nid 25 oed, pan wnaed y cais am gymorth ac a oedd yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu ar unrhyw bryd pan oedd o dan 18 oed, neu’n berson y mae’r cyfryw berson yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef, a

(f)nad yw’r awdurdod wedi sicrhau cynnig o lety i’r ceisydd o dan yr adran hon yn flaenorol yn dilyn cais blaenorol am gymorth o dan y Bennod hon, pan wnaed y cynnig hwnnw—

(i)ar unrhyw bryd o fewn y cyfnod o 5 mlynedd cyn y diwrnod yr hysbyswyd y ceisydd o dan adran 63 bod dyletswydd iddo o dan yr adran hon, a

(ii)ar y sail bod y ceisydd yn dod o fewn yr is-adran hon.

(4)At ddibenion is-adrannau (2)(a)(ii) a (3)(b)(ii), mae’r ceisydd i’w drin fel pe bai wedi ei hysbysu ar y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.

76Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben

(1)Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 75(1) yn dod i ben o dan unrhyw un o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adrannau (2), , (6) neu (7), os yw’r ceisydd wedi ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd yn derbyn—

(a)cynnig o lety addas o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (dyrannu tai), neu

(b)cynnig o lety addas o dan denantiaeth sicr (gan gynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr).

(3)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd, ar ôl derbyn hysbysiad ysgrifenedig am ganlyniadau posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod—

(a)cynnig o lety interim addas o dan adran 75,

(b)cynnig sector rhentu preifat, neu

(c)cynnig o lety o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996,

y mae’r awdurdod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd.

(4)At ddibenion yr adran hon mae cynnig yn gynnig sector rhentu preifat—

(a)os yw’n gynnig o denantiaeth fyrddaliol sicr gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw lety sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu,

(b)os yw’n cael ei wneud, gyda chymeradwyaeth yr awdurdod, yn unol â threfniadau a wneir rhwng yr awdurdod a’r landlord gyda’r nod o ddod â dyletswydd yr awdurdod o dan adran 75 i ben, ac

(c)mae’r denantiaeth sy’n cael ei chynnig yn denantiaeth cyfnod penodedig am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(5)Mewn achos cyfyngedig, rhaid i’r awdurdod tai lleol, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ddwyn ei ddyletswydd i ben drwy sicrhau cynnig sector rhentu preifat; at y diben hwn, ystyr “achos cyfyngedig” yw achos pan na fyddai awdurdod tai lleol yn fodlon fel a grybwyllir yn adran 75(1) heb roi sylw i berson cyfyngedig (gweler adran 63(5)).

(6)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol o lety interim addas y sicrhawyd ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)o dan adran 68 ac y parheir i sicrhau ei fod ar gael o dan adran 75, neu

(b)o dan adran 75.

(7)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi rhoi’r gorau yn wirfoddol i feddiannu, fel ei brif neu ei unig gartref, llety interim addas y sicrhawyd ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)o dan adran 68 ac y parheir i sicrhau ei fod ar gael o dan adran 75, neu

(b)o dan adran 75.

(8)Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 75(1) yn dod i ben.

(9)Yn yr adran hon mae i “tenantiaeth tymor penodedig” yr ystyr a roddir gan Ran 1 o Ddeddf Tai 1988.

77Ystyr bod yn ddigartref yn fwriadol

(1)Mae person yn ddigartref yn fwriadol at ddibenion y Bennod hon os yw is-adran (2) neu (4) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r person yn gwneud unrhyw beth neu’n methu â gwneud unrhyw beth yn fwriadol ac o ganlyniad i hynny mae’r person yn rhoi’r gorau i feddiannu llety sydd ar gael i’r person ei feddiannu ac y byddai wedi bod yn rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu.

(3)At ddibenion is-adran (2) ni chaniateir trin gweithred ddidwyll neu anwaith didwyll ar ran person nad oedd yn ymwybodol o unrhyw ffaith berthnasol fel gweithred fwriadol neu anwaith bwriadol.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r person yn ymrwymo i gytundeb sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person roi’r gorau i feddiannu llety y byddai wedi bod yn rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu, a

(b)diben y cytundeb yw galluogi’r person i gymhwyso ar gyfer yr hawl i gymorth o dan y Bennod hon,

ac nad oes rheswm da arall pam y mae’r person yn ddigartref.

78Penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu categori neu gategorïau o geiswyr at ddibenion yr adran hon.

(2)Ni chaiff awdurdod tai lleol roi sylw i ba un a yw ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio at ddibenion adrannau 68 a 75 oni bai bod—

(a)y ceisydd yn dod o fewn categori a bennir o dan is-adran (1) y mae’r awdurdod wedi penderfynu, mewn perthynas â'r categori hwnnw, rhoi sylw i ba un a yw ceiswyr o fewn y categori hwnnw wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio, a

(b)yr awdurdod wedi cyhoeddi hysbysiad am ei benderfyniad o dan baragraff (a) sy’n pennu’r categori hwnnw.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol wedi cyhoeddi hysbysiad o dan is-adran (2) oni bai bod yr awdurdod wedi—

(a)penderfynu rhoi’r gorau i roi sylw i ba un a yw ceiswyr sy’n dod o fewn y categori a bennir yn yr hysbysiad wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio, a

(b)wedi cyhoeddi hysbysiad am ei benderfyniad sy’n pennu’r categori.

(4)At ddibenion adran 68 a 75, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i ba un a yw ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio os yw’r ceisydd yn dod o fewn categori a bennir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd gan yr awdurdod o dan is-adran (2).

79Amgylchiadau pellach pan fo’r dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr yn dod i ben

(1)Mae’r dyletswyddau yn adrannau 66, 68, 73 a 75 yn dod i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), (3), (4) neu (5), os yw’r ceisydd yn cael ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw nad yw’r awdurdod tai lleol yn fodlon bellach bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth.

(3)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod camgymeriad ffeithiol wedi arwain at hysbysu’r ceisydd o dan adran 63 bod y ddyletswydd yn ddyledus i’r ceisydd.

(4)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi tynnu ei gais yn ôl.

(5)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd yn methu â chydweithredu â’r awdurdod mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon fel y maent yn gymwys i’r ceisydd, a hynny mewn modd afresymol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources