xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CDIGARTREFEDD

PENNOD 2LL+CCYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

CyffredinolLL+C

97Datganiadau anwir, celu gwybodaeth a methiant i ddatgelu newid mewn amgylchiadauLL+C

(1)Mae’n drosedd i berson, gyda’r bwriad o gymell awdurdod tai lleol i gredu mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon bod y person neu berson arall â’r hawl i lety neu gynhorthwy yn unol â darpariaethau’r Bennod hon, neu â’r hawl i lety neu gynhorthwy o ddisgrifiad penodol—

(a)gwneud datganiad sy’n anwir mewn unrhyw fanylyn perthnasol, yn fwriadol neu’n ddi-hid, neu

(b)celu yn fwriadol wybodaeth y mae’r awdurdod wedi ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddo ei rhoi mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau hynny.

(2)Os oes unrhyw newid yn y ffeithiau sy’n berthnasol i’r achos, a hynny cyn i geisydd dderbyn hysbysiad am benderfyniad yr awdurdod tai lleol am y cais, rhaid i’r ceisydd hysbysu’r awdurdod cyn gynted â phosibl.

(3)Rhaid i’r awdurdod egluro i bob ceisydd, mewn iaith arferol, y ddyletswydd a osodir gan is-adran (2) ac effaith is-adran (4).

(4)Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag is-adran (2) ar ôl derbyn yr esboniad sy'n ofynnol gan is-adran (3) yn cyflawni trosedd.

(5)Mewn achos yn erbyn person am drosedd a gyflawnwyd o dan is-adran (4) mae’r ffaith bod gan y person esgus rhesymol am fethu â chydymffurfio yn amddiffyniad.

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 97 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 97 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 48

98CanllawiauLL+C

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau yn ymwneud â digartrefedd rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â swyddogaethau o dan y Rhan hon ac unrhyw ddeddfiad arall.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)rhoi canllawiau naill ai yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiadau penodedig;

(b)diwygio’r canllawiau drwy roi canllawiau pellach o dan y Rhan hon;

(c)tynnu’r canllawiau yn ôl drwy roi canllawiau pellach o dan y Rhan hon neu drwy hysbysiad.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau neu hysbysiad o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 98 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I4A. 98 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(c), Atod. Rhn. 3

I5A. 98 mewn grym ar 27.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 49

99Dehongli’r Bennod hon a mynegai o ymadroddion wedi eu diffinioLL+C

Yn y Bennod hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 99 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I7A. 99 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

I8A. 99 mewn grym ar 27.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 50

100Diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Rhan 1 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol sy’n berthnasol i’r Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 100 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I10A. 100 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 51