Adrannau 141 i 146.
258.Mae adran 141 yn gwneud mân ddiwygiadau i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (gweler Rhan 5 o Atodlen 3). Mae adran 142 yn gwneud darpariaeth fel bod yn rhaid i bŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf gael eu harfer drwy offeryn statudol ac mae’n diffinio awdurdod tai lleol (“local housing authority”) i olygu cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru. Mae adran 144 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol, neu ddarpariaeth arbed sy’n angenrheidiol neu’n hwylus yn eu barn hwy er mwyn rhoi, neu o ganlyniad i roi, effaith lawn i’r Ddeddf. Mae adran 145 yn nodi’r darpariaethau a ddaw i rym ar ddyddiad y Cydsyniad Brenhinol, y rhai a fydd yn dod i rym ddeufis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol, a’r rhai a fydd yn dod i rym drwy orchmynion cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru.