Nodyn Esboniadol

Deddf Tai (Cymru) 2014

7

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 8 Diwygio Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993

255.Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn caniatáu i denantiaid fflatiau yng Nghymru a Lloegr sy’n ddarostyngedig i lesoedd hir penodol arfer: a) hawl rhyddfreinio ar y cyd o dan Bennod 1 o’r Ddeddf honno (hawl i gael rhydd-ddaliad yr adeilad y mae fflatiau wedi eu cynnwys ynddo i’w prynu ar ran y tenantiaid); b) hawl o dan Bennod 2 o’r Ddeddf honno i gaffael les newydd ar eu fflatiau.

256.Caiff hawliad i arfer y naill hawl neu’r llall ei wneud drwy roi hysbysiad; mae adran 13 o Ddeddf 1993 yn ymdrin â hysbysiadau i hawlio arfer yr hawl rhyddfreinio ar y cyd o dan Bennod 1, ac mae adran 42 o’r Ddeddf honno’n ymdrin â hawliadau i arfer yr hawl i gaffael les newydd o dan Bennod 2.

257.Ar hyn o bryd, mae adran 99(5) o Ddeddf 1993 yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiadau a roddir o dan adrannau 13 a 42 gael eu llofnodi gan y tenant neu’r tenantiaid sy’n rhoi hysbysiad os yw’r tenant hwnnw neu’r tenantiaid hynny yng Nghymru. Bydd y diwygiad i adran 99(5) a wneir gan yr adran hon yn caniatáu i denantiaid yng Nghymru ddewis p’un a fyddant yn llofnodi hysbysiadau eu hunain neu drefnu bod hysbysiadau’n cael eu llofnodi ar eu rhan. Cyflwynwyd yr hyblygrwydd mwy hwn mewn perthynas â thenantiaid yn Lloegr yn gynharach yn 2014 gan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Diwygio) 2014. O dderbyn y ddarpariaeth a wneir gan yr adran hon, nid oes diben mwyach i Ddeddf 2014; gan hynny, mae is-adran (2) yn darparu ar gyfer ei diddymu.