Adran 137 – Diwygio Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988
241.Mae Deddf Tai 1988 (“Deddf 1988”) wedi ei diwygio i wneud darpariaeth i gymdeithasau tai cwbl gydfuddiannol (sy’n cynnwys cymdeithasau tai cydweithredol) allu rhoi tenantiaethau sicr.
242.Mae Rhan 1 o Ddeddf 1988 yn darparu ar gyfer y system o denantiaethau preswyl sicr (gan gynnwys tenantiaethau byrddaliol sicr). Mae Atodlen 1 i Ddeddf 1988 yn nodi’r mathau o denantiaeth na allant fod yn denantiaethau sicr; mae hynny’n cynnwys, ym mharagraff 12(1)(h) of Atodlen 1, denantiaethau a gynigir gan gymdeithas dai gwbl gydfuddiannol (gweler isod).
243.Effaith adran 137 yw darparu ar gyfer eithriad i’r cyfyngiad cyffredinol ym mharagraff 12(1)(h) o Atodlen 1 i Ddeddf 1988 pan fo’r amodau a grybwyllir yn adran 137(3) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â thenantiaeth. Bydd cymdeithasau tai cwbl gydfuddiannol yn gallu optio i mewn i’r drefn ar gyfer tenantiaethau sicr drwy roi’r denantiaeth honno fel tenantiaeth sicr. Bydd hyn yn galluogi cymdeithasau tai cwbl gydfuddiannol i roi tenantiaethau sicr a thenantiaethau byrddaliol sicr fel y caiff eu haelodau elwa ar yr amddiffyniad statudol y mae’r tenantiaethau hyn yn ei ddarparu, fel a nodir yn Neddf 1988.