207.Caiff Gweinidogion Cymru osod safonau ar gyfer tai a ddarperir gan awdurdod tai lleol. Rhaid i’r awdurdod tai lleol fodloni’r safonau. Caniateir i safonau gael eu gosod mewn unrhyw un neu rai neu’r cyfan o dri maes. Y meysydd a nodir yn is-adran (1) yw ansawdd y llety, y rhent a godir a’r ffioedd gwasanaeth ar gyfer y llety.
208.Caiff safonau gynnwys rheolau y mae’n rhaid i’r awdurdod gydymffurfio â hwy. Caiff rheolau perthnasol wneud darpariaeth ar gyfer lefelau isaf neu uchaf y rhent neu’r ffioedd gwasanaeth a godir gan awdurdodau tai lleol; caniateir i ddarpariaeth gael ei gwneud hefyd ynghylch lefelau uchaf neu isaf y codiadau neu’r gostyngiadau yn swm y rhent hwnnw neu’r ffioedd gwasanaeth hynny.
209.Caiff Gweinidogion Cymru adolygu safonau neu eu tynnu’n ôl drwy ddyroddi safonau pellach. Caniateir i safonau gael eu tynnu’n ôl drwy hysbysiad. Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r holl safonau a hysbysiadau a roddir o dan yr adran hon.
210.Caniateir i ganllawiau gael eu rhoi gan Weinidogion Cymru sy’n ymwneud â safon a osodir o dan adran 111 ac yn ehangu ar y safon honno. Wrth asesu a yw awdurdod tai lleol wedi bodloni safon, gall Gweinidogion Cymru roi sylw i’r canllawiau. Caiff Gweinidogion Cymru adolygu canllawiau neu eu tynnu’n ôl drwy ddyroddi canllawiau pellach o dan yr adran hon. Caniateir i ganllawiau gael eu tynnu’n ôl hefyd drwy hysbysiad. Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r holl ganllawiau a hysbysiadau a roddir o dan yr adran hon.
211.Cyn gwneud, adolygu neu dynnu’n ôl safonau a osodir o dan adran 111 neu ganllawiau a roddir o dan adran 112, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol: cyrff sy’n cynrychioli buddiannau awdurdodau tai lleol; cyrff sy’n cynrychioli buddiannau tenantiaid; ac unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
212.Rhaid i awdurdod tail lleol gydymffurfio ag unrhyw gais gan Weinidogion Cymru am wybodaeth sy’n ymwneud â chydymffurfio â’r safonau a bennir o dan adran 111.
213.Mae’r adran hon yn gymwys pan y gall awdurdod tai lleol fod yn methu â chynnal a chadw neu atgyweirio mangre yn unol â safon ansawdd llety a osodir o dan adran 111 neu ganllawiau a roddir o dan adran 112. Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi person, yn ysgrifenedig, i fynd i fangre o’r fath er mwyn cynnal arolwg ac archwiliad. Rhaid i gopi o’r arolwg gael ei roi i’r awdurdod tai lleol y caniateir ei gwneud yn ofynnol iddo dalu costau sy’n ymwneud â’r arolwg.
214.Rhaid i’r person awdurdodedig roi o leiaf 28 o ddiwrnodau o rybudd i’r awdurdod tai lleol o’i fwriad i fynd i’r fangre berthnasol; ac, yn ei dro, rhaid i’r awdurdod roi o leiaf 7 niwrnod o rybudd i feddiannydd, am ddyddiad yr arolygiad. Mae gan feddiannydd y fangre sy’n cael ei harolygu neu asiant y meddiannydd hawl i weld awdurdodiad ysgrifenedig y person sy’n cynnal yr arolygiad.
215.Mae pwerau ymyrryd Gweinidogion Cymru a materion cysylltiedig wedi eu nodi yn adrannau 117 i 127. Wrth benderfynu p’un a i arfer pŵer ymyrryd, pa bŵer a’r modd y dylid ei arfer, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried dau ffactor. Yn gyntaf, a yw’r methiant neu’r methiant tebygol i gyrraedd safon yn ddigwyddiad unigol neu reolaidd, neu’n debyg o fod yn ddigwyddiad unigol neu reolaidd. Yn ail, pa mor gyflym y mae angen cywiro unrhyw fethiant â chydymffurfio.
216.Y sail ar gyfer ymyrryd yw bod awdurdod tai lleol wedi methu, neu’n debyg o fethu, â bodloni safon ansawdd llety, sydd wedi ei gosod o dan adran 111.
217.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y sail ar gyfer ymyrryd yn bodoli mewn perthynas ag awdurdod tai lleol, caniateir i hysbysiad rhybuddio gael ei roi i’r awdurdod. Rhaid i Weinidogion Cymru bennu mewn unrhyw hysbysiad eu rhesymau dros gredu bod y sail yn bodoli, y camau adfer sy’n ofynnol o fewn cyfnod amser a’r camau tebygol y bydd y Gweinidogion yn eu cymryd os yw’r awdurdod yn methu â gweithredu.
218.Caniateir i’r pŵer i ymyrryd a roddir i Weinidogion Cymru gan y Rhan hon gael ei arfer ar ôl i hysbysiad rhybuddio gael ei roi ac os na fydd camau adfer wedi eu cymryd o fewn y cyfnod amser a bennwyd. Rhaid monitro’r amgylchiadau sy’n arwain at y pŵer i ymyrryd. Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr awdurdod tai lleol wedi mynd i’r afael â’r sail ar gyfer ymyrryd neu y byddai arfer pwerau yn amhriodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt hysbysu’r awdurdod tai lleol yn ysgrifenedig. Hyd nes y caiff unrhyw hysbysiad o’r fath ei roi, mae’r pŵer i ymyrryd o dan y Rhan hon yn parhau mewn effaith. Pan fo gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd o dan y Rhan hon, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau a bennir mewn hysbysiad rhybuddio (a roddir o dan adran 118).
219.Pan fydd Gweinidogion Cymru yn dewis arfer eu pŵer i ymyrryd, cânt wneud hynny drwy gyfarwyddo’r awdurdod tai lleol i ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson neu ddosbarth o berson a bennir yn y cyfarwyddyd at ddibenion cael cyngor.
220.Pan fydd Gweinidogion Cymru yn dewis arfer eu pŵer i ymyrryd, cânt wneud hynny drwy gyfarwyddo’r awdurdod tai lleol neu unrhyw un o’i swyddogion y maent yn barnu eu bod yn briodol, i sicrhau bod y swyddogaethau y mae’r sail ar gyfer ymyrryd yn ymwneud â hwy yn cael eu cyflawni’n effeithiol ar ran yr awdurdod tai lleol gan berson a bennir yn y cyfarwyddyd.
221.Pan fydd Gweinidogion Cymru yn dewis arfer eu pŵer i ymyrryd, cânt gyfarwyddo bod swyddogaethau’r awdurdod tai lleol y mae’r sail ar gyfer ymyrryd yn ymwneud â hwy yn cael eu harfer gan naill ai Gweinidogion Cymru neu berson a enwebir ganddynt. Rhaid i’r awdurdod tai lleol gydymffurfio â chyfarwyddiadau’r person sy’n arfer swyddogaethau yn unol â chyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon.
222.Os ydynt o’r farn ei bod yn hwylus gwneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi cyfarwyddiadau o dan adran 121 neu 122 sy’n ymwneud â’r modd y mae awdurdod tai lleol yn cyflawni swyddogaethau yn ychwanegol at y swyddogaethau y mae’r sail ar gyfer ymyrryd yn ymwneud â hwy. Wrth benderfynu a ddylid cymhwyso cyfarwyddyd i’r swyddogaethau ychwanegol hyn, caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i ystyriaethau ariannol ac ystyriaethau eraill.
223.Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol er mwyn ymdrin â’r sail ar gyfer ymyrryd, cânt roi cyfarwyddiadau i’r awdurdod tai lleol neu unrhyw un o’i swyddogion neu gymryd camau eraill sy’n briodol yn eu barn hwy.
224.Rhaid i awdurdod tai lleol y rhoddir iddo, neu i unrhyw un o’i swyddogion, gyfarwyddyd neu arweiniad gydymffurfio ag ef. Caniateir i gyfarwyddiadau neu arweiniadau gael eu rhoi mewn cysylltiad â phwerau neu ddyletswyddau sy’n arferadwy fel rheol yn ddarostyngedig i farn yr awdurdod neu farn ei swyddogion. Er enghraifft, ni chaiff pŵer a roddir i awdurdod fod yn arferadwy ond os yw’r awdurdod wedi ei fodloni y byddai ei arfer yn debyg o sicrhau canlyniad penodol. Os câi awdurdod ei gyfarwyddo i arfer y pŵer gan y Gweinidogion, byddai’n rhaid iddo arfer y pŵer ni waeth beth fo’i farn am debygrwydd sicrhau’r canlyniad o dan sylw. Gall cyfarwyddiadau a roddir o dan y Rhan hon gael eu hamrywio neu eu dirymu gan gyfarwyddyd diweddarach a gellir eu gorfodi drwy orchymyn gorfodi ar gais Gweinidogion Cymru.
225.Rhaid i awdurdod tai lleol roi cymaint o gymorth ag y gall yn rhesymol ei roi i Weinidogion Cymru ac unrhyw berson a grybwyllir yn is-adran (2) pan fyddant yn arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.
226.Caiff y pwerau sydd ar gael o dan yr adran hon gael eu harfer gan unrhyw un o’r personau a grybwyllir yn is-adran (2). Ond nid yw’r pŵer i fynd i fangre awdurdod tai lleol yn cynnwys hawl i fynd i mewn i annedd.
227.Mae’r pwerau hyn yn rhoi i berson a grybwyllir yn is-adran (2) hawl i arolygu, a chymryd copïau o unrhyw wybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf a gedwir gan yr awdurdod, ac unrhyw ddogfennau eraill, os yw’r person o’r farn bod yr wybodaeth yn berthnasol i arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon. Mae hyn yn cynnwys hawl i gael mynediad at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunydd cysylltiedig y gall gwybodaeth fod wedi ei storio arnynt. Caiff y person neu rywun sy’n ei gynorthwyo ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi defnyddio cyfrifiadur, rhywun sy’n ei weithredu ar ei ran, neu rywun sy’n gyfrifol am offer neu ddeunydd o’r fath, ddarparu cymorth rhesymol.
228.Mae adran 25 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 wedi ei diwygio i esemptio landlordiaid cymdeithasol rhag darpariaethau trosedd pan fo landlord wedi methu â chydymffurfio â dyletswyddau penodol mewn perthynas â darparu gwybodaeth i denantiaid ynglŷn â ffioedd gwasanaeth. O’r blaen yr oedd landlord awdurdod lleol wedi ei esemptio tra’r oedd landlord cymdeithasol cofrestredig yn agored i gael ei gosbi. Mae’n ofynnol bellach i’r ddau fath o landlord cymdeithasol gydymffurfio ag unrhyw safonau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru sy’n ymwneud â ffioedd gwasanaeth, ac nid yw’n angenrheidiol cael sancsiynau troseddol ychwanegol.
229.Mae’r adran hon yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 fel bod y ddarpariaeth yn gymwys i awdurdod lleol yn Lloegr yn unig. Mae adrannau 18 i 25 o’r Ddeddf honno’n ymwneud â chyfyngiadau ar ffioedd gwasanaeth a cheisiadau am wybodaeth ynghylch costau, ac mae’r darpariaethau hyn yn gymwys mewn perthynas â phob tenantiaeth awdurdod lleol yng Nghymru.
230.Nodir y diwygiadau i Ddeddf Tai 1985 a Deddf Tai 1996 a wneir o ganlyniad i’r ddarpariaeth a wneir gan y Rhan hon yn Rhan 3 o Atodlen 3.