Adran 10 – Ystyr gwaith gosod
19.Mae adran 10 yn manylu ar beth yw “gwaith gosod”, y mae’n rhaid i asiant gael trwydded i’w wneud. Gwaith ydyw sy’n cael ei wneud mewn ymateb i gyfarwyddiadau a geir oddi wrth landlordiaid sy’n ceisio canfod tenantiaid ar gyfer eu heiddo ar rent a’r gwaith a wneir mewn ymateb i gyfarwyddiadau a geir oddi wrth bobl sy’n ceisio meddiannu eiddo ar rent, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol a nodir yn yr adran.
20.Mae is-adrannau (2) a (3) yn eithrio gweithgareddau penodol o’r diffiniad o waith gosod ar yr amod nad yw’r person sy’n ymhel â’r gweithgareddau hynny: a) yn ymgymryd ag unrhyw weithgaredd arall sy’n gyfystyr â “gwaith gosod”, a b) yn ymgymryd ag unrhyw waith rheoli eiddo (gweler adran 12).
21.Mae is-adran (4) yn nodi gweithgareddau eraill nad ydynt yn waith gosod. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith a wneir gan bobl sy’n cael eu cyflogi gan landlord neu sydd wedi eu prentisio iddo o dan gontract gwasanaeth gyda landlord (gyda’r canlyniad na fyddai angen i’r cyflogai, ond byddai angen i’r landlord, fod yn drwyddedig). Mae’r un peth yn gymwys i waith a wneir gan gyflogai neu brentis i asiant. Mae hefyd yn eithrio gwaith a wneir gan awdurdod tai lleol ar ran landlord.