Adran 32 – Gorchmynion ad-dalu rhent
81.Dylai’r adran hon gael ei darllen ar y cyd ag adran 33.
82.Caiff yr awdurdod trwyddedu neu’r awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y lleolir annedd ynddi, neu denant yr annedd honno wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn ad-dalu rhent. Os nad yw’r awdurdod yn awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y lleolir yr annedd ynddi, rhaid i’r awdurdod tai lleol gael cydsyniad yr awdurdod trwyddedu cyn gwneud cais.
83.Mae gorchymyn ad-dalu rhent yn cael ei wneud mewn cysylltiad ag annedd. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r person priodol dalu i’r ceisydd y swm y manylir arno yn y gorchymyn. Cyn gwneud gorchymyn ar ôl cais gan awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol, rhaid i’r tribiwnlys fod wedi ei fodloni ynghylch materion penodol, mae’r rhain yn wahanol i’r materion y mae’n rhaid i dribiwnlys fod wedi ei fodloni yn eu cylch os yw’r cais yn un a wneir gan denant.
84.Mewn perthynas â chais a wneir gan awdurdod trwyddedu neu awdurdod lleol, rhaid i’r tribiwnlys fod wedi ei fodloni bod trosedd o dan 7(5) (gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd a gweithgareddau rheoli eiddo) neu 13(3) (y drosedd o benodi asiant heb drwydded) wedi ei gyflawni gan landlord yr annedd yn y 12 mis cyn dyddiad yr hysbysiad gofynnol am achos arfaethedig o dan y rhan hon (p’un a yw’r person wedi ei gollfarnu neu ei gyhuddo o’r drosedd ai peidio). Ni chaniateir ceisiadau oddi wrth yr awdurdod trwyddedu neu’r awdurdod tai lleol ond mewn achosion pan fo dyfarniad neu ddyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai wedi ei dalu neu wedi eu talu i unrhyw berson mewn perthynas â’r annedd honno; y swm hwnnw yw’r swm y caiff y tribiwnlys gyfarwyddo iddo gael ei ad-dalu i’r ceisydd.
85.Pan gaiff cais ei wneud gan denant, rhaid i dribiwnlys, er mwyn gallu rhoi gorchymyn, fod wedi ei fodloni bod person wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol; caiff hefyd roi gorchymyn pan fydd eisoes wedi gwneud gorchymyn o ganlyniad i gais gan awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol sy’n cwmpasu dyfarniad neu ddyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai a dalwyd mewn perthynas â’r un denantiaeth.
86.Diffinnir ystyr y prif dermau sy’n cael eu defnyddio yn yr adran hon yn is-adran (9).