Adran 4 – Gofyniad i landlord fod yn gofrestredig
8.Rhaid i landlord sydd naill ai’n cynnig neu’n marchnata annedd i’w gosod, neu’n gosod un o dan denantiaeth ddomestig fod wedi ei gofrestru gyda’r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd honno wedi ei lleoli ynddi. Nodir eithriadau i’r gofyniad hwn yn adran 5. Mae landlord nad yw eithriad yn gymwys iddo, nad yw wedi ei gofrestru ac nad oes ganddo esgus rhesymol am beidio â bod yn gofrestredig yn cyflawni trosedd. Byddai achosion o’r fath yn cael eu gwrando mewn llysoedd ynadon. Os câi ei gollfarnu, byddai’r landlord yn agored i ddirwy, a gâi ei phenderfynu yn ôl y raddfa safonol ar gyfer dirwyon. Yn yr achos hwn, ni fyddai’r ddirwy yn uwch na lefel 3.